Y Fframwaith Gwneud Penderfyniadau

Mae egwyddorion llywodraethu da mewn bywyd cyhoeddus yn gofyn bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (y Comisiynydd) a staff sy'n cefnogi swyddogaethau'r Comisiynydd yn:

  • cynnal dulliau agored ac effeithiol ar gyfer dangos tystiolaeth o benderfyniadau a chofnodi'r meini prawf, rhesymeg ac ystyriaethau sy'n sail i benderfyniadau;
  • sicrhau bod y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn derbyn gwybodaeth sy'n addas i'r diben - yn berthnasol, amserol ac yn rhoi esboniadau clir o faterion technegol a'u goblygiadau;
  • sicrhau bod cyngor proffesiynol cywir ar gael ar faterion a chanddynt oblygiadau cyfreithiol neu ariannol a'i fod yn cael ei gofnodi ymhell cyn i benderfyniad gael ei wneud a'i ddefnyddio'n briodol;
  • cydnabod y cyfyngiadau a osodir arnynt o ran gweithgarwch cyfreithiol gan, er enghraifft, athrawiaeth 'y tu hwnt i'w pwerau' (ultra vires) ond hefyd ymdrechu i ddefnyddio eu pwerau er budd pennaf eu cymunedau;
  • penderfynu sut bydd gwerth am arian yn cael ei fesur a sicrhau bod gan y Comisiynydd y wybodaeth angenrheidiol i adolygu gwerth am arian a pherfformiad yn effeithiol;
  • mesur effaith polisïau, cynlluniau a phenderfyniadau ar yr amgylchedd ac ar gydraddoldeb;
  • penderfynu ar gynllun i ddirprwyo a chadw pwerau o fewn y cyfansoddiad, a sicrhau ei fod yn cael ei fonitro a'i ddiweddaru yn ôl y gofyn.

Mae fframwaith gwneud penderfyniadau wedi cael ei gyhoeddi i helpu i gyflawni'r swyddogaethau hyn.

Saesneg