Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cyhoeddi cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn buddsoddi mewn mentrau sy'n cefnogi ei Chynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Mae Cronfa Gymunedol y Comisiynydd yn cynnig grantiau rhwng £1,000 a £50,000 tuag at brosiectau sy'n ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhoi cymorth i ddioddefwyr a phobl agored i niwed, a meithrin cydlyniant cymunedol.
Ei nod yw galluogi sefydliadau sy'n cael eu harwain gan y gymuned i ddarparu prosiectau parhaus sydd o fudd i bobl leol ac yn rhoi blaenoriaeth i fentrau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae ein preswylwyr eisiau byw mewn cymunedau cryfach, mwy diogel lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hamddiffyn. Maen nhw eisiau camau gweithredu sy'n rhoi sylw i achosion sylfaenol troseddu a chymorth ystyrlon i'r bobl fwyaf agored i niwed. Dyma'r problemau na all plismona eu datrys ar ei ben ei hun.
"Mae gan ein cymunedau'r pŵer i greu newid parhaus ac, yn aml iawn, nhw sydd yn y lle gorau i arwain y newid hwnnw. I wneud hynny, mae angen y cymorth iawn arnyn nhw, ac rwyf yn falch i fod yn buddsoddi yn y potensial hwnnw a defnyddio arian sydd wedi cael ei adfeddu o weithgarwch troseddol i helpu i adeiladu cymdeithas decach, fwy diogel.
"Os oes gennych chi brosiect a allai leihau trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhoi cymorth i bobl agored i niwed, neu ddod â chymunedau at ei gilydd i feithrin ymddiriedaeth a hyder, rwyf eisiau clywed gennych chi. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn".
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/cronfa-gymunedol-yr-heddlu