Gwybodaeth Am y Contract
Fel y nodir yn y Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodol) (Diwygiad) 2012, Rhan 4 (b) a (c), rhaid i bob contract gwerth dro £10,000 y mae'r Comisiynydd neu'r Llu yn ymrwymo iddo gael ei gyhoeddi, yn ogystal â chopi o bob gwahoddiad i dendro a gyflwynir lle y disgwylir y bydd gwerth y contract dros £10,000. Mae Rhan 4 (d) y ddeddfwriaeth hefyd yn gofyn bod rhestr o gontractau gwerth llai na £10,000 yn cael eu cyhoeddi, gan gynnwys manylion yr holl bartïon sy'n rhan o'r contract yn ogystal â'i bwrpas.
Gwahoddiadau i Dendro
Mae copïau o bob gwahoddiad i dendro ar gael ar wefan Gwerthwch i Gymru.
I gael mynediad i bob gwahoddiad blaenorol i dendro, defnyddiwch y cyfarwyddiadau canlynol:
- Ewch i wefan Gwerthwch i Gymru
- Ar y dudalen 'chwilio manwl' cliciwch ar flwch testun 'Enw'r Awdurdod' a theipiwch 'Police and Crime Commissioner for Gwent'
- Ar waelod y dudalen chwilio ticiwch y blwch i gynnwys hysbysiadau sydd wedi dod i ben
- Cliciwch ar y botwm 'Chwilio'
- Dylai pob gwahoddiad presennol a gwahoddiadau sydd wedi dod i ben ymddangos.
Contractau a Ddyfarnwyd
Mae pob contract sydd wedi cael ei ddyfarnu, gan gynnwys rhai gwerth £10,000 neu lai, ar gael ar Gronfa Ddata Caffael Bluelight.
I fynd at yr holl gontractau, dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol:
- Ewch i wefan Bluelight Procurement Database
- O dan y pennawd 'Welcome to the Bluelight Procurement Database', ar waelod y blwch, mae'r frawddeg olaf yn dweud For a list of current contracts for member authorities please click here. Cliciwch y ddolen hon.
- Yn y meini prawf chwilio, dewiswch y gwymplen nesaf at 'Organisation' a dewiswch Heddlu Gwent.
- Cliciwch 'Search'.
- Dylai'r holl wahoddiadau i dendro presennol a rhai sydd wedi dod i ben ymddangos ar waelod y dudalen.
Sylwer: Nid oes rhaid i chi gofrestru ar Gronfa Ddata Bluelight i allu gweld y wybodaeth am gontractau.