Plismona sy'n Canolbwyntioar y Plentyn

Mae Heddlu Gwent wedi lansio strategaeth newydd sy’n gosod lles plant a phobl ifanc wrth wraidd ei benderfyniadau.

Datblygwyd y strategaeth blismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn gyda phlant a phobl ifanc o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Gwent.

Ei nod yw:    

  • Meithrin cysylltiadau gwell a chwalu rhwystrau rhwng Heddlu Gwent a phlant a phobl ifanc.
  • Atal plant a phobl ifanc rhag cael eu tynnu at droseddu a’r system cyfiawnder troseddol.
  • Gwella canlyniadau cyfiawnder troseddol ar gyfer plant a phobl ifanc.
  • Gwella gwasanaethau i blant sydd wedi dioddef trosedd a’r rhai sy’n dod i gysylltiad â cham-drin domestig.

Gweithiodd plant a phobl ifanc gyda Heddlu Gwent a Swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i graffu ar y strategaeth cyn iddi gael ei chwblhau.

Maen nhw hefyd wedi helpu i greu posteri sy’n egluro wrth bobl ifanc beth allan nhw ei ddisgwyl gan yr heddlu, a fydd yn cael eu harddangos mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid.

Fersiwn plant
Fersiwn pobl ifanc