Gorchymyn Gwybodaeth Benodedig
Mae Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) yn gosod dyletswydd ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'i swyddfa i gyhoeddi gwybodaeth benodol ar gyfer y cyhoedd ac i adolygu’r wybodaeth honno'n rheolaidd.
Mae'r gofynion yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario, beth yw ein blaenoriaethau, sut rydym yn gwneud penderfyniadau a gwybodaeth am gwynion, polisïau a gweithdrefnau.
Ceir manylion cyhoeddi isod:
Diwygiad 2021
Perfformiad:
Datganiad ar gyfraniad Heddlu Gwent tuag at gyflawni gwelliannau yn erbyn y prif flaenoriaethau cenedlaethol fel y mynegir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
- gan gynnwys eglurhad o ba rai o'r blaenoriaethau cenedlaethol sy'n cael eu hasesu i fod yn berthnasol a pha rai nad ydynt yn berthnasol yng nghyd-destun yr ardal blismona berthnasol a'r rhesymau dros yr asesiad hwnnw.
Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (yr Arolygiaeth):
Adroddiad arolwg PEEL mwyaf diweddar - 2018/19*
*sylwer bod yr arolwg PEEL nesaf ar gyfer Gwent i fod i ddigwydd yn 2022.
Asesiad crynodol (inffograffeg) o berfformiad Heddlu Gwent o'r arolwg PEEL*
*sylwer na fydd yr inffograffeg ar gael nes bydd adroddiad arolwg 2022 wedi cael ei gynhyrchu gan yr Arolygiaeth
Cwynion:
Data perfformiad chwarterol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gyfer Heddlu Gwent
Adroddiad Ystadegau Blynyddol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gyfer Heddlu Gwent
Adroddiad a gyhoeddir gan Swyddfa'r Comisiynydd sy'n ymdrin â: (yn cael ei gynhyrchu)
- sut mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag ymdrin â chwynion am yr heddlu; ac
- asesiad gan Swyddfa'r Comisiynydd o'i pherfformiad wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu cwynion am yr heddlu.
Pwy ydym ni a'r hyn rydym yn ei wneud: gwybodaeth am y sefydliad, strwythurau, lleoliadau a chontractau.
Enwau a manylion cyswllt y Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd.
Gwybodaeth am strwythurau mewnol Swyddfa'r Comisiynydd yn cynnwys siartiau sefydliadol, (gydag enwau uwch staff, os ydynt yn cytuno i hynny), bandiau cyflog a demograffeg yn cynnwys ethnigrwydd, rhywedd ac anabledd (yn ôl cyfran). -
Gwybodaeth am unrhyw drefniadau sydd gan y Comisiynydd i ddefnyddio staff prif swyddog yr heddlu neu awdurdod lleol.
Unrhyw eiddo neu dir sy'n eiddo i'r Comisiynydd neu'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith y Comisiynydd
Yr hyn rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario: Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant rhagamcanol a gwirioneddol ac archwiliad ariannol clir er mwyn tryloywder.
Cyllideb Swyddfa'r Comisiynydd, yn cynnwys:
Holl ffynonellau refeniw disgwyliedig
Y praesept drafft (sy'n gorfod cael ei ystyried gan Banel yr Heddlu a Throsedd);
Yr ymateb i adroddiad Panel yr Heddlu a Throsedd ar y praesept arfaethedig
Manylion pob grant (gan gynnwys grant lleihau trosedd ac anhrefn) a ddyfarnir gan y Comisiynydd, yn cynnwys:
Yr amodau (os oes rhai) sy'n gysylltiedig â'r grant
Y rhesymau pam roedd y corff yn ystyried y byddai'r grant yn sicrhau, neu'n cyfrannu at sicrhau lleihad mewn trosedd ac anhrefn yn ardal y corff, ble y bo'n briodol.