Partneriaethau

Mae partneriaid yn cynnwys sefydliadau sy'n gweithio ar ddiogelwch cymunedol, troseddau, cyffuriau, iechyd neu gyfiawnder troseddol yn lleol, neu fel rhan o'r panel heddlu a throseddu, sy'n craffu ar berfformiad a phenderfyniadau'r Comisiynydd.

Mae dyletswydd ar y Comisiynydd, wrth gyflawni ei swyddogaethau i:

  • dalu sylw i flaenoriaethau perthnasol pob partner diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol cyfrifol
  • cydweithredu â phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol ar gyfer materion trosedd ac anhrefn
  • ynghyd â chyrff cyfiawnder troseddol yn ardal Gwent, trefnu (cyn belled â'i bod yn briodol i wneud hynny) i arfer swyddogaethau i ddarparu system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol i bobl Gwent.

Partneriaid Cyfiawnder Troseddol (Y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol)

Gwent Mwy Diogel


CYDWEITHREDU

Yn dilyn cyflwyno Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 gosodwyd dyletswyddau newydd ar Gomisiynwyr a Phrif Swyddogion i gydweithredu lle mae hynny er budd neu effeithiolrwydd eu hardaloedd heddlu eu hunain ac eraill.

Gall gweithio gyda sefydliadau eraill ddod â buddiannau megis mwy o gydnerthedd ac arbedion ariannol. Yng ngoleuni'r heriau ariannol presennol, mae cydweithredu yn ganolog i’r gwaith o gyflawni'r arbedion gofynnol ac i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddarparu'r gwasanaeth plismona mwyaf effeithlon i bobl Gwent.

Crëwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gan y lluoedd yng Nghymru a oedd yn ymwneud â phrosiectau cydweithredol yng nghyfarfod Grŵp Plismona Cymru Gyfan a gynhaliwyd ar 26 a 27 Mawrth 2014; llofnodwyd y penderfyniad gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i gadarnhau bod Gwent yn mabwysiadu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar 14 Ebrill 2014 (cofnod penderfyniad PCCG-2014-026).

Mae Gwent yn rhan o nifer o fentrau cydweithredol ledled Cymru a Lloegr.