Comisiynu

Mae'r Comisiynydd yn gallu dyfarnu cyllid, trwy grantiau neu gontractau, i sefydliadau sy'n cyfrannu at leihau trosedd ac anhrefn yng Ngwent, neu i sefydliadau sy'n helpu dioddefwyr neu dystion i ymdopi â'r niwed maent wedi ei brofi ac ymadfer ohono.

Gall weithio mewn partneriaeth neu gall roi cyllid llawn i amrywiaeth eang o sefydliadau (gan gynnwys cyrff statudol, sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol bach a mentrau cymdeithasol) sydd yn y sefyllfa orau i helpu i gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu. Yn syml, ystyr y term 'comisiynu' yw'r cylch o asesu anghenion pobl mewn ardal, cynllunio ac yna sicrhau'r gwasanaeth priodol a monitro a gwerthuso perfformiad y gwasanaeth hwnnw.

Mae'r Comisiynydd yn derbyn grant 'craidd' gan y Swyddfa Gartref ac mae'n derbyn cyllid yn uniongyrchol gan drethdalwyr ledled Gwent trwy'r praesept plismona. Mae ganddo hawl i dderbyn mathau penodol o incwm ar gyfer gwasanaethau plismona hefyd a gall ddenu cyllid allanol gan asiantaethau megis y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Cyfiawnder neu Lywodraeth Cymru, ar ben y grant a'r praesept craidd, i roi sylw i feysydd penodol sy'n peri pryder neu i gyfrannu at ymgyrchoedd.

Mae'r Comisiynydd yn gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol allweddol i ddylanwadu ar y ffordd mae pob un ohonynt yn blaenoriaethu a dwyn eu hadnoddau ynghyd i fynd i'r afael â phroblemau a blaenoriaethau lleol. Bob blwyddyn mae'r Comisiynydd yn cyhoeddi 'Bwriadau Comisiynu' sy'n dangos y gyllideb sydd ar gael ar gyfer comisiynu a'r gwasanaethau a fydd yn cael eu comisiynu i helpu i gyflawni Cynllun yr Heddlu a Throseddu.

Mae Fframwaith Comisiynu yn bodoli ochr yn ochr â Chynllun yr Heddlu a Throseddu sy'n darparu:

• Dull o oruchwylio cyfeiriad a gweithgareddau comisiynu;
• Egwyddorion comisiynu;
• Y cylch comisiynu a'r hyn sydd angen ei gyflawni ar bob cam; a
• Swyddogaethau a chyfrifoldebau staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (Swyddfa'r Comisiynydd) mewn perthynas â chomisiynu.

Mae dwy gronfa flynyddol y gellir gwneud cais am arian ohonynt. Mae gan y ddwy gronfa ei meini prawf a gofynion cymhwyso ei hun, a nod y ddwy yw helpu i gyflawni blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Mae rhagor o wybodaeth am y cronfeydd hyn ar gael ar y tudalennau canlynol:

Cronfa Effaith Gadarnhaol
Cronfa Gymunedol yr Heddlu

Mae'r Comisiynydd yn cyfrannu at Gronfa Gymunedol yr Uchel Siryf hefyd i gefnogi prosiectau sy'n cyfrannu at flaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Yr Uchel Siryf sy'n dyfarnu a rheoli'r grantiau hyn ac nid yw Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n rhan o’r penderfyniadau.

Gall y Comisiynydd sefydlu grantiau eraill os bydd incwm ychwanegol yn cael ei dderbyn a lle mae cronfa gystadleuol wedi cael ei dewis fel y dull ariannu mwyaf priodol. Mae pob cronfa gystadleuol agored yn cael ei chyhoeddi ar wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac yn cael ei hyrwyddo ledled y sector.

Yn ogystal â chronfeydd grantiau, mae'r Comisiynydd yn comisiynu amrywiaeth o wasanaethau yn strategol i fodloni cyfrifoldebau statudol a blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Mae rhagor o fanylion am wasanaethau a gomisiynir yn strategol ar y dudalen ganlynol: Comisiynu Strategol