Strategaeth Caffael Cydweithredol

Mae swyddogaeth caffael broffesiynol ac effeithiol yn hollbwysig wrth ddangos Gwerth am Arian i'r pwrs cyhoeddus a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y rheng flaen yn y ffordd orau posibl. Mae'r hinsawdd o leihad cynyddol mewn adnoddau'n gofyn am agwedd strategol a thymor canolig tuag at gaffael, gyda safoni, ymrwymiad i gydgrynhoi a chydweithio yn sbardunau allweddol i gael mwy o werth o nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir wrth gyflawni gwasanaethau plismona. Bydd y strategaeth caffael hon yn sicrhau bod gweithgareddau caffael yn cyd-fynd ag amcanion corfforaethol y tri llu yn ne Cymru ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion y Gorfforaeth Undyn yn Heddlu Gwent, Dyfed a De Cymru.

Saesneg