EIN CYLLID

Y Comisiynydd sy'n pennu'r praesept plismona (a godir yn lleol trwy dreth y cyngor) ac ef sy’n gyfrifol am bennu cyllideb yr heddlu a dosbarthu grantiau plismona.

Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2024/25
Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2023/24
Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2022/23
Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2021/22
Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2020/21
Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2019/20
Cyllideb a Hysbysiad Praesept 2018/19


RHAGOLYGON ARIANNOL TYMOR CANOLIG

Dylai'r Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig  roi golwg glir a chryno ar gynaliadwyedd ariannol ar gyfer y dyfodol a'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud i roi sylw i unrhyw fylchau yn y cyllid tymor hir ac i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffyg cyllid. Mae'r prif swyddogion ariannol statudol, y Cydbwyllgor Archwilioy Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad a'r Panel Heddlu a Throsedd yn craffu ar y Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig. 


DATGANIAD CYFRIFON

Pwrpas Datganiad Cyfrifon yw darparu gwybodaeth am sefyllfa ariannol, perfformiad, atebolrwydd rheoli adnoddau, risgiau ac ansicrwydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent sy'n ddefnyddiol i ystod eang o ddefnyddwyr.

Gallai defnyddwyr y datganiadau ariannol gynnwys y cyhoedd, y Llywodraeth, cyrff sy'n dyfarnu grantiau, gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr a chontractwyr y Comisiynydd.


LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol yn crynhoi casgliadau'r archwiliad o ddatganiadau ariannol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent.


STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS

Ystyr Rheoli'r Trysorlys yw rheoli'r llif arian, bancio, y farchnad arian a thrafodion marchnad cyfalaf; rheoli'r risgiau cysylltiedig, a cheisio sicrhau'r perfformiad neu gydnabyddiaeth orau sy'n gyson â'r risgiau hynny.