Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad

Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yw'r fforwm gwneud penderfyniadau ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phan fo'n briodol mewn ymgynghoriad â'r Prif Gwnstabl. Mae'r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yn gyfrifol am fonitro perfformiad.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Unrhyw faterion sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth plismona a ddarperir yng Ngwent
  • Monitro a rheoli'r broses o gyflawni Cynllun yr Heddlu a Throseddu
  • Asesu hyfywedd cymryd rhan mewn mentrau cydweithredu a'r penderfyniadau’n ymwneud â hynny
  • Adolygu'r broses o sicrhau plismona gweithredol drwy wybodaeth am berfformiad
  • Adolygu a monitro'r gwaith o reoli'r gyllideb gan y Prif Swyddog Ariannol (Prif Gwnstabl)
  • Trosolwg o'r dosbarthiad a'r lefel o staff ac adnoddau ar gyfer sicrhau gwasanaethau'r heddlu
  • Adolygu a nodi pryderon y gymuned ynghylch plismona a gweithredu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion hynny
  • Trafod unrhyw faterion sy'n codi o weithredu'r Memorandwm o Ddealltwriaeth, cynllun cydsynio a pholisïau a gweithdrefnau allweddol eraill
  • Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau critigol cyfredol a bygythiadau a risgiau strategol. Oherwydd sensitifrwydd rhai materion a'u lefel dosbarthu o dan gynllun marcio gwarcheidiol y llywodraeth, bydd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitemau hyn yn amodol ar gyfyngiadau cyhoeddi priodol.

Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Pennaeth Staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Prif Swyddog Ariannol y Swyddfa a'r Prif Gwnstabl. Gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl wahodd unrhyw un arall yn ôl eu disgresiwn i roi cyngor proffesiynol i'r Bwrdd.

Cylch Gorchwyl y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad


Os ydych chi am fynd i gyfarfod y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad ac am glywed y cyfarfod yn Gymraeg, rhowch wybod i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfarfod er mwyn i ni wneud y trefniadau priodol.

Mae 2024 dyddiadau'r cyfarfodydd fel a ganlyn: