Cyd-Bwyllgor Archwilio

Diben y Cyd-bwyllgor Archwilio ac Adnoddau yw:

  • rhoi sicrwydd annibynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl ynghylch digonolrwydd y fframwaith rheoli risg a'r amgylchedd rheoli cysylltiedig,
  • craffu'n annibynnol ar berfformiad ariannol yr Heddlu a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu,
  • arolygu'r broses o gofnodi cyllid a addaswyd o Ganllawiau Ymarferol Pwyllgorau Archwilio CIPF ar gyfer Awdurdodau Lleol

Mae'r Pwyllgor yn rhoi sylwadau, cyngor a sicrwydd ar faterion sy'n ymwneud ag amgylchedd rheoli mewnol yr Heddlu a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae'n arolygu materion llywodraethu corfforaethol cyffredinol a bydd yn rhoi sylwadau ar unrhyw bolisïau newydd neu rai arfaethedig a strategaethau a ddarperir gan y Comisiynydd neu newidiadau i bolisïau a strategaethau presennol sy'n sylweddol ym marn y Prif Swyddogion Cyllid o ran risg a chywirdeb ariannol.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys pum unigolyn sy'n annibynnol i'r Prif Gwnstabl a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mrs Dawn Turner (Cadeirydd)

Dr Janet Wademan (Is-gadeirydd)
Mr Andrew Blackmore 
Mr Andy Johns
Mr Gareth Watts

Mae'n atebol yn uniongyrchol i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl.

Caiff pump cyfarfod pwyllgor ffurfiol eu trefnu bob blwyddyn (efallai y bydd angen cyfarfodydd ffurfiol ychwanegol). Bydd Agenda, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd ffurfiol ar gael ar wefannau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl.


Agendâu a Chofnodion


Cylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgor Archwilio


Adroddiad Blynyddol a Chylch Gorchwyl

Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2022/23

Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2021/22

Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2020/21

Adroddiad Archwilio Blynyddol y Cyd-bwyllor Archwilio 2019/20