Tribiwnlysoedd Apeliadaur Heddlu

Mae Tribiwnlysoedd Apeliadau'r Heddlu (PATs) yn gwrando ar apeliadau yn erbyn canfyddiadau o gamymddwyn difrifol a gyflwynwyd gan swyddogion yr heddlu neu gwnstabliaid gwirfoddol. Fe'u llywodraethir gan Reolau Tribiwnlysoedd Apeliadau'r Heddlu 2012 ar hyn o bryd, a ddiwygiwyd yn 2015. Nododd y diwygiadau yr hyn y gellir ei gyhoeddi mewn perthynas â gwrandawiadau apêl ac mae'n caniatáu cynnal y gwrandawiadau apêl yn gyhoeddus. Gall aelodau o'r cyhoedd bellach fynychu gwrandawiadau apêl fel arsylwyr ond ni chaniateir iddynt gymryd rhan mewn gweithrediadau. Fodd bynnag ceidw Cadeirydd y Tribiwnlys yr hawl i gynnal rhan o'r Tribiwnlys neu'r Tribiwnlys cyfan yn breifat. Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent sy'n gyfrifol am benodi'r Cadeirydd i gynnal y gweithrediadau.

Tribiwnlysoedd Apeliadau'r Heddlu

15 Mawrth 2022: Cyn Swyddog