Polisi Rheoli Cofnodion ac Amserlen Cadw

Mae’r Amserlen Cadw a Gwaredu (yr Amserlen) yn offeryn a ddefnyddir i sicrhau y rheolir gwybodaeth fusnes yn effeithiol ac mae’n nodi’r cyfnodau cadw a bennir ar gyfer categorïau penodol a chyffredinol o gofnodion a’r camau y dylid eu cymryd pan nad yw cofnodion o werth gweinyddol mwyach.  

Mae’n ystyried y cyd-destun y mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (OPCC) yn gweithredu oddi mewn iddo, gan gynnwys yr amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae hefyd yn sicrhau cydymffurfiad ag Adran 46 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdod cyhoeddus reoli cofnodion yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Polisi Rheoli Cofnodion
Polisi Cadw Cofnodion
Amserlen Cadw Cofnodion