Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.gwent.police.uk

Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

• Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
• Chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
• Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
• Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
• Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml ei ddeall â phosibl. Mae AbilityNet yn rhoi cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd neu unrhyw ofynion hygyrchedd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: Er enghraifft:

• Nid yw’r rhan fwyaf o’n dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
• Nid yw rhai tudalennau ac atodiadau dogfennau wedi’u hysgrifennu’n glir
• Nid yw rhai tablau’n cynnwys penawdau rhesi
• Mae gan rai tudalennau cyferbyniad gwael rhwng lliwiau
• Nid yw rhai elfennau penawdau’n gyson
• Nid oes gan rai delweddau destun amgen da
• Nid yw rhai botymau wedi'u nodi’n gywir
• Nid oes cyswllt amlwg rhwng rhai negeseuon gwallau â rheolyddion ffurflen

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os na allwch gael gafael ar rywbeth sydd ei angen arnoch ar y wefan hon, rhowch wybod i ni amdano a byddwn yn cael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnoch mewn ffordd arall. I’n helpu i ddeall y broblem, e-bostiwch commissioner@gwent.police.uk yn nodi’r canlynol:

• Cyfeiriad y wefan neu deitl y dudalen lle daethoch o hyd i’r broblem.
• Beth yw’r broblem.
• Pa gyfrifiadur a meddalwedd rydych yn eu defnyddio.

Gweithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 – safon Lefel AA, o ganlyniad i’r achosion o ddiffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd:

• Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon.
Bydd rhywfaint o wybodaeth ariannol y bydd angen ei chyflwyno mewn ffordd arbennig er mwyn iddi wneud synnwyr. Rydym yn gwneud y dogfennau hyn mor hygyrch â phosibl ond efallai y bydd rhai achosion lle na fydd yn bosibl bodloni'r gofynion hyn.
• Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.4 Y Gallu i Lywio.
Efallai na fydd rhai dogfennau PDF yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Rydym wrthi’n ailosod neu’n trwsio unrhyw ddogfennau PDF a Word sy'n hanfodol i'n gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i bob defnyddiwr eu defnyddio. Bydd dogfennau'n cael eu trosi i HTML lle bo hynny'n ymarferol. Bydd dogfennau anhanfodol yn cael eu tynnu. Byddwn yn datrys hyn erbyn 27 Medi 2023.

Os oes unrhyw ddogfen nad yw'n cydymffurfio y mae angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio helpu ym mhob ffordd bosibl.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Bydd pob dogfen newydd PDF a Word rydym yn eu cyhoeddi yn cyrraedd safonau hygyrchedd.

Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a Word presennol yn gwbl hygyrch. Er enghraifft, efallai nad ydynt yn hawdd eu darllen yn defnyddio rhaglen darllen sgrin. Er nad yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau, rydym yn y broses o adolygu pob dogfen ar y wefan. Bydd dogfennau'n cael eu trosi i HTML lle bo hynny'n ymarferol. Bydd dogfennau anhanfodol yn cael eu tynnu. Byddwn yn datrys hyn erbyn 27 Medi 2023.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Chwefror 2022. Cafodd ei adolygu ar 26 Ebrill 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mawrth 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) sef ein darparwr TG mewnol. Bydd yn cael ei phrofi eto ym mis Medi 2023 ac o hynny allan bydd profi'n digwydd yn flynyddol.

Profodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth ein gwefan yn 2022/23 hefyd. Mae'r holl broblemau a nodwyd wedi'u datrys, neu yn y broses o gael eu datrys.