Prosiect baner gymunedol Rhuban Gwyn
Ymunwch â'r arlunydd proffesiynol Emma Bevan a helpwch i greu baner gymunedol i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn rhan o’n hymgyrch byd-eang i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Mae'n digwydd ar 25 Tachwedd bob blwyddyn.
Mae'r sesiynau am ddim a bydd yr holl ddeunyddiau'n cael eu darparu. Mae croeso i chi ddod â'ch cit gwnïo eich hun ac unrhyw ddarnau o ddefnydd yr hoffech chi eu defnyddio yn eich dyluniad.
Pan fydd wedi ei gorffen, bydd y faner yn cael ei harddangos yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn rhan o'i arddangosfa Rhuban Gwyn a fydd yn parhau am 16 diwrnod.
Archebwch le yn un o'r sesiynau canlynol:
- Dydd Mawrth 20 Hydref, 10am–2pm The Wool Croft, 14 Stryd Nevill, Y Fenni NP7 5AD
- Dydd Gwener 23 Hydref, 10am–2pm EVI, Stryd yr Eglwys, Glynebwy NP23 6BE
- Dydd Llun 26 Hydref, 1pm-5pm Hyb Magwyr a Gwndy, Prif Ffordd, Cil-y-coed NP26 3GD
- Dydd Mawrth 27 Hydref, 10am–2pm Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Sgwâr Gwent, Cwmbrân NP44 1XQ
- Dydd Iau 29 Hydref, 10am–2pm Memo Trecelyn, Stryd Fawr, Trecelyn NP11 4FH
- Dydd Llun 2 Tachwedd, 10am–2pm Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Kingsway, Casnewydd NP20 1HG