Clwb Rygbi Cwmbrân yn derbyn gwobr gymunedol
Mae Clwb Rygbi Cwmbrân wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Torfaen eleni am ei waith yn cefnogi cymunedau ledled y fwrdeistref.
Derbyniodd wobr Calon y Gymuned, sy'n cael ei noddi gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd, i gydnabod ei waith cymunedol.
Mae'r clwb, a sefydlwyd yn 1880, yn galluogi cannoedd o blant a phobl ifanc yn Nhorfaen i ddatblygu eu sgiliau rygbi, cadw'n heini, a datblygu eu hyder a gwaith tîm.
Mae gwirfoddolwyr y clwb hefyd yn rhoi prydau bwyd poeth i breswylwyr lleol ar ddydd Sul. Maen nhw'n cyfrannu at y gymuned trwy gefnogi grwpiau dementia lleol a chynnal canolfan gynnes i bobl a allai deimlo'n ynysig fel arall.
Mae'r wobr hefyd yn cydnabod cyfraniad hollbwysig gwirfoddolwyr, y mae eu hamser, ymroddiad a charedigrwydd yn helpu'r clwb i ddarparu gweithgareddau a chymorth ymarferol i bobl o bob oedran ledled cymunedau Torfaen.
Dywedodd y Comisiynydd: "Mae sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lefydd diogel i fynd iddyn nhw, cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau iach, a chymorth gan wrywod sy'n dangos esiampl gadarnhaol yn flaenoriaeth i mi. Mae'n un o'r prif ffyrdd y gallwn ni atal plant rhag cael eu tynnu i mewn i droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Nid yn unig mae Clwb Rygbi Cwmbrân yn darparu'r cyfleoedd hyn, mae ei wirfoddolwyr yn edrych ar ôl y gymuned ehangach hefyd trwy roi cymorth i breswylwyr agored i niwed a rhoi rhywle diogel a chroesawgar y gall pawb fynd iddo.
"Hoffwn ganmol pawb yn y clwb am bopeth maen nhw'n ei wneud i gefnogi eu cymuned leol. Mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn, ac rwy’n gobeithio gweld y clwb yn parhau i ffynnu am flynyddoedd lawer i ddod."