Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb newydd yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoliadau Dyletswydd Penodol) 2011.
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn seiliedig ar ganllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a ddarperir i gyrff datganoledig y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n dod â gwybodaeth ynghyd am y sefydliad, ei ymrwymiad i gydraddoldeb a gwybodaeth gysylltiedig arall sy'n ategu'r amcanion cydraddoldeb.