Comisiynydd yn annerch uwchgynhadledd plismona

20fed Tachwedd 2026

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, wedi siarad ag arweinwyr plismona o bob cwr o'r DU mewn digwyddiad cenedlaethol yn Llundain.

Daeth uwchgynhadledd APCC/NPCC, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Choleg yr Heddlu, â mwy na 300 o gynrychiolwyr uwch o'r gwasanaeth heddlu ynghyd - gan gynnwys Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd - ar gyfer rhaglen gynhadledd ac arddangosfa ddeuddydd a oedd yn canolbwyntio ar gydweithio, diogelwch cymunedol a dyfodol plismona.

Fel rhan o'r uwchgynhadledd, roedd y Comisiynydd yn rhan o banel a archwiliodd y dirwedd blismona newidiol, modelau amgen ar gyfer cydweithio a'r arweinyddiaeth sydd ei hangen i lywio newid sefydliadol. Yr aelodau eraill o'r panel ar gyfer y drafodaeth oedd Prif Gwnstabl Heddlu Durham, Rachel Bacon, Prif Swyddog Gweithredol GIG Gorllewin a Gogledd Llundain, Kate Fisher, a Nick West o'r noddwyr CGI.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Gwyddom fod angen moderneiddio plismona, ond mae'n hanfodol bod plismona'n parhau i gyflawni ar gyfer y bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae'r naratif methiant parhaus yn niweidio hyder y cyhoedd yn ein gwasanaethau heddlu a gallai diwygio plismona heb wella atebolrwydd lleol ysgogi hyn ymhellach yn ddiarwybod.

“Mae angen inni sicrhau ein bod yn dysgu o adolygiad y Farwnes Casey o Heddlu'r Met am hyfywedd lluoedd heddlu mawr a lywodraethir yn dda, ac mae angen sylfaen dystiolaeth glir ar gyfer gwneud penderfyniadau. Rydym yn gwybod y bydd unrhyw newidiadau i lywodraethu a strwythur yr heddlu yn cael effeithiau ariannol sylweddol ac amrywiol ledled y wlad. Yng Ngwent, er enghraifft, byddai cydraddoli praeseptau yn golygu y byddai Heddlu Gwent yn colli £7m yn ystod y tair blynedd gyntaf yn unig. Rhaid gwneud y goblygiadau hyn a'u heffeithiau yn glir.

“Mae plismona yng Nghymru hefyd yn gweithredu o fewn tirwedd gwasanaeth cyhoeddus unigryw, sy'n wahanol iawn i dirwedd ein partneriaid yn Lloegr. Mae plismona yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, a'n partneriaid eraill, gyda Llywodraeth Cymru yn gyllidwr allweddol ar gyfer swyddogion SCCH drwy ei hymrwymiad i ddiogelwch cymunedol. Mae'r dull partneriaeth rydym wedi'i ddatblygu dros flynyddoedd lawer yma yng Nghymru wedi ei ganmol gan lywodraethau olynol, ac mae'n rhaid i unrhyw adolygiad o'r model plismona a'r strwythurau adlewyrchu'r gwaith hwn. Rhaid hefyd ystyried y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio orau i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

"Mae plismona yma'n seiliedig ar swyddogaethau yn hytrach nag ardaloedd daearyddol, ac rwyf wedi bod yn falch o weld y gwelliant mewn perfformiad a hyder y cyhoedd yn sgil hyn. Yn ogystal, mae angen i unrhyw newidiadau i blismona gael eu cyflwyno'n raddol er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn cyflawni ar gyfer cymunedau lleol.

“Mae mwy na blwyddyn bellach wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r diwygiadau llywodraethu, ac rydym 18 mis i ffwrdd o'u gweithredu, ond nid oes gennym unrhyw eglurder pellach ynghylch yr hyn sydd wedi'i gynllunio. Er gwaethaf hyn, hoffwn roi sicrwydd i'n cymunedau y byddwn oll yn gweithio'n ddiflino i sicrhau parhad, sefydlogrwydd ac atebolrwydd democrataidd drwy gydol unrhyw gyfnod trawsnewid.”