Cyllideb 2021-22

Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2021-22

Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2021/22 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Cyllideb 2021/22 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 

Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2020/21 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:

  1. Gofyniad cyllideb o £147,554,856 ar gyfer 2021/22;
  2. Arbedion arfaethedig o £676k miliwn yn 2021/22 ac arbedion arfaethedig pellach o £3.102 miliwn (cyfanswm o £3.778m miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
  3. Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
  4. Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 8a a 8b; a
  5. Praesept arfaethedig ar gyfer 2021/22 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £64,159,178 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £287.96) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:

Awdurdodau Unedol

£

Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£)

Blaenau Gwent

5,987,866

20,794.09

Caerffili

17,506,027

60,793.26

Sir Fynwy

13,451,170

46,711.94

Casnewydd

17,417,143

60,484.59

Torfaen

9,796,972

34,021.99

Cyfanswm

64,159,178

222,805.87

Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:

Band Treth y Cyngor

£

A

191.97

B

223.97

C

255.96

D

287.96

E

351.95

F

415.94

G

479.93

H

575.92

I

671.91

Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu

Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu