Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015: Rheoliad 113

Mae Rheoliad 113 Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn gofyn bod yr holl awdurdodau contractio yn talu anfonebau cydnabyddedig o fewn 30 diwrnod. Pan na fydd anfonebau y mae anghydfod yn eu cylch yn cael eu talu o fewn y cyfnod hwn o 30 diwrnod, codir llog ar y swm sy'n ddyledus fel yr amlinellir yn y Ddeddfwriaeth Taliadau Hwyr.

Mae Rheoliad 113(7) o Ddeddf Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn nodi bod rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r wybodaeth ganlynol o fis Ebrill 2016 ymlaen:

  1. Canran yr anfonebau haen gyntaf i gyflenwyr/prif gontractwyr (nad oes anghydfod yn eu cylch) a dalwyd o fewn 30 diwrnod
  2. Cyfanswm y llog y mae'r awdurdod contractio'n gyfrifol am ei dalu (boed wedi ei dalu neu beidio) oherwydd bod Rheoliad 113 wedi cael ei dorri
  3. Cyfanswm gwirioneddol y llog a dalwyd i gyflenwyr oherwydd bod Rheoliad 113 wedi cael ei dorri

Mae'r tabl canlynol yn dangos perfformiad mewn perthynas â'r gofyniad hwn.

Blwyddyn Ariannol     

Cyfran yr anfonebau cydnabyddedig a dalwyd o fewn 30 diwrnod yn unol â Rheoliad 113 Cyfanswm y llog rydym yn gyfrifol am ei dalu i Gyflenwyr oherwydd bod Rheoliad 113 wedi cael ei dorri. Cyfanswm y llog a dalwyd mewn gwirionedd i gyflenwyr oherwydd bod y gofyniad yn Rheoliad 113 wedi cael ei dorri

2022/23

82.27% Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* £0.00

2021/22

83.89% Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* £0.00

2020/21

79.86% Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* £0.00

2019/20

78.52% Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* £8,403.42
2018/19 71.68% Mae cyflenwyr yn gallu pennu eu cyfraddau eu hunain yn unol â deddfwriaeth y DU* £987.77

Late Payment of Commercial Debts (Interest) Act 1998 a Late Payment of Commercial Debts Regulations 2002 (SI 2002 No 1674)

  • Arwystl sefydlog o £40, £70 neu £100 yn dibynnu ar faint y ddyled (o dan £1,000, o dan £10,000, ac uwch).
  • Llog yn 8% uwchben y gyfradd sylfaenol (lefel a bennir bob 6 mis er hwylustod).