Cyllideb 2026 - 27
Mae'n ofynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd bennu cyllideb ar gyfer 2026 - 27 ac yna gosod praesept y dreth gyngor ar ôl ymgysylltu â thrigolion ac ymgynghori â Phanel Heddlu a Throseddu Gwent.
Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen i dalu am gost Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a chomisiynu gwasanaethau sefydliadau heblaw Heddlu Gwent.
Wrth bennu gofyniad y gyllideb ar gyfer 2026-27, mae'r Comisiynydd wedi rhoi sylw i Gynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder 2025 - 29; Gweledigaethau Plismona 2030; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl ynghylch yr adnoddau ariannol sydd eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y cynllun; lefel yr adnoddau sydd i'w dyrannu i'w comisiynu heblaw gan y Prif Gwnstabl, a'r gost o redeg Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo, mewn ymgynghoriad â Phanel Heddlu a Throseddu Gwent:
Gofyniad cyllideb ar gyfer 2026/27 o £196,592, 216
Y rhaglen gyfalaf gychwynnol
Yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn 2026/27 o £730l ac arbedion effeithlonrwydd arfaethedig pellach o £2.040m (cyfanswm o £2,770m)
Tanysgrifio awgrymedig arall y diffyg sy'n weddill gyda Chronfeydd wrth Gefn a Chronfeydd Ymrwymedig o £5.395m i fantoli cyllideb 2026/27
Mae Praesept y Dreth Gyngor arfaethedig 2026/27 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o ££93,286,500. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd blynyddol ym Mand D o 6.95% neu £26.22 ar lefel Praesept y Dreth Gyngor 2025/26, a thrwy hynny gynnig Praesept y Dreth Gyngor Band D 2026/27 o £403.53. Bydd y swm cyffredinol hwn o Braesept y Dreth Gyngor yn cael ei dosrannu i bob Awdurdod Unedol yn ôl y tabl canlynol:
- Blaenau Gwent: £8,558,924
- Caerffili: £25,308,522
- Sir Fynwy: £19,760,739
- Casnewydd: £25,676,860
- Torfaen: £13,981,455
Cyfanswm: £93,286,500
Mae praesept y dreth gyngor a ddangosir uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth gyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
- £269.02
- £313.86
- £358.69
- £403.53
- £493.20
- £582.88
- £672.55
- £7807.06
- £941.57
Dogfennau
Adroddiad cyllideb
Atodiadau 1
Atodiadau 2
Adroddiad ar gyfer Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Llythyr o gefnogaeth gan y Prif Gwnstabl
Ymateb Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Adroddiad argymhelliad
Adroddiad diwygiedig i Banel Heddlu a Throsedd Gwent
Ail ymateb y Panel Heddlu a Throsedd
Cyllideb 2025-26 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu