Cyllideb 2023-24

Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2023-24

Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2023-24 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Cyllideb 2023-24 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2023-24 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2021-25; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:

  1. Gofyniad ar gyllideb 2023/24 o £161,586,891;
  2. Arbedion arfaethedig o £1.142 miliwn yn 2023/24 ac arbedion arfaethedig pellach o £2.762 miliwn (cyfanswm o £3.904 miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
  3. Defnydd arfaethedig pellach o Gronfeydd Wrth Gefn a Chronfeydd wedi’u Neilltuo o £3.457 miliwn i fantoli cyllideb 2023/24 (Atodiad 7);
  4. Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y'i disgrifir yn Atodiadau 8a ac 8b; a
  5. Praesept y Dreth Gyngor 2023/24 arfaethedig i’w gasglu mewn cysylltiad â threuliau cyffredinol o £72,998,181. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd blynyddol ym Mand D o 6.82% neu £20.72 ar lefel Praesept y Dreth Gyngor 2022/23, a thrwy hynny’n cynnig Praesept y Dreth Gyngor Band D 2023/24 o £324.52. Bydd y swm Praesept y Dreth Gyngor cyffredinol hwn yn cael ei ddosrannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn ôl y tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol £ Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£)
Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Fynwy
Casnewydd
Torfaen

6,752,190
19,839,572
15,504,946
19,787,776
11,113,697

20,806.70
61,135.13
47,778.09
60,975.52
34,246.57
Cyfanswm 72,998,181 224,942.01


Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:

Band Treth y Cyngor £
A
B
C
D
E
F
G
H
I
216.35
252.40
288.46
324.52
396.64
468.75
540.87
649.04
757.21

Adroddiadau (Saesneg yn unig)

Adroddiad cyllideb
Atodiad

Atodiadau
Adroddiad Panel yr Heddlu a Throsedd