Arddangosfa gelf yn rhoi sylw i ddiogelwch menywod

25ain Tachwedd 2026

Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi dadorchuddio arddangosfa o waith celf yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn.

Mae’r arddangosfa 'Mae’n cymryd pob un ohonom' wedi'i hysbrydoli gan ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni. Mae'n cynnwys gwaith gan artistiaid proffesiynol, goroeswyr a phobl ledled Gwent.

Mae'r gweithiau celf yn defnyddio collage, paentio, pwytho a brodwaith i archwilio anghydraddoldeb, cam-drin domestig, ymddygiad rheolaethol a lladd menywod a merched oherwydd eu rhyw.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ystod y 16 Diwrnod o Weithredu, o Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mercher 25 Tachwedd hyd at Ddiwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ddydd Iau 10 Rhagfyr.

Dywedodd Jane Mudd: "Rwy'n falch iawn o weithio gyda Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon i ddod â'r arddangosfa hon ynghyd a rhoi cyfle i'n trigolion brofi'r gweithiau celf pwerus hyn.

"Mae hwn yn gasgliad sy'n eich gwahodd i oedi, meddwl a myfyrio ar y ffordd y caiff menywod a merched eu trin yn ein cymdeithas. Maen nhw’n parhau i ddioddef aflonyddu, cam-drin a thrais, ac rydym yn gweld yn rhy aml y canlyniadau dinistriol pan ganiateir i ymddygiadau ac agweddau niweidiol fynd heb eu herio.

"Mae gan gelf y pŵer i gychwyn sgyrsiau, herio canfyddiadau ac ysbrydoli newid. Ond mae newid hefyd yn gofyn am weithredu. Rhaid inni roi'r gorau i esgusodi ymddygiad niweidiol, herio misogynedd pan fo'n ddiogel gwneud hynny, a herio agweddau sy'n gwneud i fenywod a merched deimlo'n anniogel yn eu cartrefi, eu gweithleoedd a'u cymunedau.

"Hoffwn ddiolch i'r holl artistiaid sydd wedi gweithio gyda ni i greu'r arddangosfa hon, ac i'r nifer fawr o aelodau o'n cymuned a gymerodd ran mewn gweithdai i greu'r faner gymunedol wych sydd bellach yn hongian yn falch yng Nghanolfan Glan yr Afon i bawb ei gweld."

Mae’r arddangosfa 'Mae’n cymryd pob un ohonom' i'w gweld yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon tan ddydd Iau 10 Rhagfyr.

Er nad yw'r arddangosfa'n erchyll, mae'n archwilio themâu cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched.

Os ydych wedi dioddef cam-drin domestig neu os ydych yn poeni am rywun arall, mae cymorth ar gael. Mae Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Ffoniwch: 0808 80 10 800 Testun: 07860 077333