Bwriadau Comisiynu 2026 – 27

Cyflwyniad

Cyllideb Comisiynu 2026-27

Bwriadau Comisiynu 2026/27

Atal Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwneud ein Cymunedau'n Fwy Diogel

Amddiffyn Pobl Agored i Niwed

Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr

Lleihau Aildroseddu

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (y Comisiynydd), a etholir gan y cyhoedd, yn gyfrifol am bennu blaenoriaethau plismona ar gyfer Heddlu Gwent drwy'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu blaenoriaethau'r Comisiynydd yn ystod y cyfnod, gan ddarparu'r cyd-destun a'r cyfeiriad ar gyfer comisiynu.

Yn flynyddol, mae'r Comisiynydd yn comisiynu portffolio o wasanaethau ac ymyraethau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan ddarparwyr allanol trwy grantiau, contractau neu gyfraniadau i sefydliadau partneriaeth.

Mae'r ddogfen hon yn cyflwyno gwybodaeth fanwl am y portffolio sydd i'w gomisiynu ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, gan gynnwys y sefydliadau dan sylw, y gwasanaethau a ddarperir, a swm y cyllid sydd wedi’i ddyrannu. Mae'r argymhellion wedi'u datblygu drwy ymgysylltu â Heddlu Gwent a phartneriaid allanol, ac maent wedi'u cymeradwyo drwy drefniadau llywodraethu mewnol, a chafwyd cadarnhad terfynol gan Fwrdd Rheoli Strategol y Comisiynydd.

Cyllideb Comisiynu 2026-27

Yn flynyddol, mae'r Comisiynydd yn derbyn grant 'craidd' gan y Swyddfa Gartref, y praesept plismona lleol ac incwm arall y mae gan y Comisiynydd yr hawl i'w dderbyn. Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i Heddlu Gwent ar gyfer darparu gwasanaethau plismona. Mae cyllideb lai yn cael ei chadw ar gyfer cyflawni swyddogaethau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd). Bydd gwasanaethau comisiynu yn cael eu comisiynu o gyllideb yr Heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd. Yn flynyddol, mae'r Comisiynydd hefyd yn derbyn Grant Gwasanaethau Dioddefwyr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gomisiynu Gwasanaethau Cymorth i Ddioddefwyr yng Ngwent.

Mae'r Comisiynydd hefyd yn denu cyllid allanol gan asiantaethau fel y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu Lywodraeth Cymru. Gall hyn fod yn gyllid ar sail tymor byrrach i ymdrin â meysydd neu fentrau penodol sy'n peri pryder, yn ogystal â chyllid gan bartneriaid ar gyfer gwasanaethau a gyd-gomisiynwyd.

Yn 2026/27 cyllideb gomisiynu'r Comisiynydd ar gyfer gwasanaethau comisiynu yng Ngwent yw £5.395m, yn seiliedig ar ffrydiau cyllido a gadarnhawyd ar gyfer y flwyddyn, ac mae hyn yn cynnwys y ffrydiau incwm a'r gwerthoedd a ddangosir yn y siart. Yn ogystal â'r cyllid hwn, disgwylir y bydd y9 Comisiynydd yn derbyn incwm o £2.1m gan sefydliadau partner lle mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cyd-gomisiynu gwasanaethau gyda nhw ar draws tirwedd ddaearyddol ehangach neu'n comisiynu gwasanaethau gwahanol ond cyflenwol o dan un contract.                  

  • Cyllideb Swyddfa'r Comisiynydd: £3,156,263 43.7%
  • Y Weinyddiaeth: £1,399,345 / 19.4%
  • Cyfiawnder Swyddfa Gartref: £544,269 / 8%
  • Llywodraeth Cymru: £145,290 / 2%
  • Elw Trosedd: £150,000 / 2%

Bwriadau Comisiynu 2026/27

Mae'r adran ganlynol yn amlinellu'r gwasanaethau a'r ymyraethau y bwriedir eu comisiynu yn 2026/27 o dan bob un o Flaenoriaethau'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Y bwriad yw bod cyllid yn cael ei ddyrannu'n deg ac yn gymesur i ystod o sefydliadau a mentrau ledled Gwent, gan ystyried y cyllid sydd ar gael a'i gylch gwaith, yr angen a nodwyd a'r canlyniadau a ddymunir er mwyn cyflawni'r buddsoddiad mwyaf effeithiol a chynaliadwy. Bydd nifer o wasanaethau ac ymyraethau yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau mwy nag un golofn, fodd bynnag, mae pob gwasanaeth a gomisiynwyd wedi'i ddyrannu o dan brif Golofn.

Pan fo'r angen i sicrhau gwasanaeth gan ddarparwr allanol wedi'i nodi, bydd y gofynion gwasanaeth yn cael eu hyrwyddo drwy gyhoeddi Gwahoddiad i Dendro, neu lansio cronfa grant.  Bydd darparwyr posibl yn cyflwyno cynigion a fydd yn cael eu hasesu, a bydd argymhellion yn cael eu gwneud i'r Comisiynydd am benderfyniad. Bydd y darparwr llwyddiannus yn cael ei hysbysu, a bydd cytundeb yn cael ei roi ar waith, mewn perthynas â Thelerau ac Amodau'r cyllid a ddarperir. 

Pan fo'r gofyniad yn cael ei fodloni drwy bartneriaeth neu yn cael ei gyd-gomisiynu ac nad ni sy’n arwain y gwaith o sicrhau'r darparwr, efallai y bydd angen datblygu cytundeb cydweithredu rhwng y partneriaid comisiynu a phan fo'r prosiect neu'r gwasanaeth i'w ddarparu yn fewnol, defnyddir dull rheoli prosiect i weithredu a chyflawni'r canlyniadau, gan gynnwys sefydlu tîm y prosiect, datblygu cynllun prosiect a chyflawni'r prosiect.

Atal Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cronfa Bartneriaeth Gymunedol
Trosolwg:  Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth i grwpiau a sefydliadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Ngwent ac sy'n cyflawni blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £50,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cronfa Gymunedol y Comisiynydd
Trosolwg:  Bydd y gronfa hon yn galluogi pobl yng Ngwent i fod yn ddiogel, yn iach, ac yn hapus, gan adeiladu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain a'u cymunedau, trwy ymdrin â phroblemau yn y gymuned mewn ffordd barhaus ac effeithiol.
Dyraniad cyllideb: £500,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cronfa Ymgysylltu â'r Gymuned
Trosolwg:  Bydd y gronfa hon yn darparu grantiau i brosiectau sy'n adeiladu ar gydlyniant cymunedol, ac ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gefnogi gwaith i gyflawni'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Dyraniad cyllideb: £100,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cronfa'r Uchel Siryf
Trosolwg:  Nod y cyfraniad hwn i Gronfa'r Uchel Siryf yw rhoi ansawdd bywyd mwy diogel a gwell i bobl Gwent, yn arbennig plant a phobl ifanc, trwy gefnogi mentrau a phrosiectau yn y gymuned sy'n lleihau trosedd ac yn gwella diogelwch cymunedol.
Dyraniad cyllideb: £65,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Dyfodol Cadarnhaol - Casnewydd Fyw
Trosolwg:  Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gweithgareddau dargyfeiriol sy'n galluogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed ac mewn perygl i wireddu eu potensial. Mae Dyfodol Cadarnhaol yn gweithio ledled Gwent ac yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned a gan bartneriaid. Caiff gweithgareddau chwaraeon grŵp eu darparu'n wythnosol. Yn ystod y sesiynau mae staff y prosiect yn treulio amser yn meithrin perthynas â'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn siarad am y ffactorau risg mae'r person ifanc yn eu dangos. Mae'r gweithgareddau cymysg wedi'u creu'n bwrpasol ar gyfer grŵp a sesiynau un i un.  Mae staff y rhaglen yn ymarferwyr ieuenctid cymwys.
Dyraniad cyllideb: £209,689

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cydweithrediad Academaidd Cymru Gyfan                                                                
Trosolwg:  Nod y cydweithrediad hwn yw hwyluso ymgysylltu effeithiol rhwng heddluoedd Cymru a phrifysgolion yng Nghymru i gynnal ymchwil sy'n gwella bywydau pobl Cymru.
Dyraniad cyllideb: £13,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Plismona yng Nghymru
Trosolwg:  Cyd-gysylltydd Cymru Gyfan ar gyfer Plismona yng Nghymru sy'n gyfrifol am gyd-gysylltu a rheoli comisiynwyr yr heddlu a throsedd, partneriaeth a chydweithredu ar sail Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan. Bydd y rôl yn rhoi cyngor a chymorth o ansawdd da i gefnogi pob elfen ar gydweithredu, gan sicrhau llywodraethu, craffu a gweithgarwch cydymffurfiaeth / perfformiad da.
Dyraniad cyllideb: £17,500

Gwneud ein Cymunedau'n Fwy Diogel

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
Trosolwg:  Bydd cyfraniad yn cael ei wneud at waith partneriaethau diogelwch cymunedol, sy'n gweithio i ddarparu prosiectau a gwasanaethau ar draws y pum awdurdod lleol. Mae dyraniad o £236,410 o gyllid uniongyrchol y Comisiynydd wedi’i bennu ar gyfer y ffrwd ariannu hon. Bydd pob partner awdurdod lleol yn llenwi ffurflen gynnig yn amlinellu ei fwriad ynghylch sut y bydd y dyraniad yn cael ei wario ac yn darparu adroddiad monitro pob chwe mis.

Mae'r dyraniad i bob awdurdod lleol unigol yn seiliedig ar fformiwla y cytunwyd arno fel a ganlyn:

  • Cyngor Dinas Casnewydd - £64,476
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - £61,664
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - £40,791
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent - £34,027
  • Cyngor Sir Fynwy - £35,452

Dyraniad cyllideb: £236,410

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Ymyraethau Trais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol
Trosolwg:  Bydd dyraniad yn cael ei wneud i ariannu dwy ymyrraeth sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ledled Gwent i ymdrin â thrais difrifol a throseddau cyfundrefnol. Bydd y ddau sefydliad yn llenwi ffurflen gynnig i amlinellu eu cyflwyniad a fydd yn cael ei fonitro bob tri mis trwy gydol y flwyddyn.

£142,257 i Ymddiriedolaeth St Giles sy'n darparu cymorth ac yn diogelu pobl ifanc sy’n agored i niwed sy'n ymwneud â throseddu.

£67,525 i Crimestoppers (Rhaglen Fearless) sy'n addysgu plant a phobl ifanc am y niwed a achosir gan drais difrifol a throseddau cyfundrefnol.
Dyraniad cyllideb: £209,782

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Ymyraethau'r Ddyletswydd Trais Difrifol
Trosolwg:  Darperir y Cyllid Dyletswydd Trais Difrifol i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i gefnogi partneriaid i weithio gyda'i gilydd i leihau troseddau treisgar, gan gynnwys cam-drin domestig a throseddau rhywiol; a rhoi sylw i wraidd achosion trais difrifol. Mae cyflwyno'r Ddyletswydd Trais Difrifol trwy Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn rhoi cyfrifoldeb ar y Comisiynydd i ddwyn partneriaid at ei gilydd a gweinyddu'r cyllid cysylltiedig.
Dyraniad cyllideb: £259,740

Gwasanaeth / ymyrraeth: Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
Trosolwg:  Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yw'r llais strategol sy'n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol er mwyn iddynt allu creu cymunedau mwy diogel – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Bydd cyfraniad o £20,000 yn cael ei wneud i gefnogi gwaith Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Dyraniad cyllideb: £20,000

Amddiffyn Pobl Agored i Niwed

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cydgysylltydd MARAC
Trosolwg:  Bydd cyfraniad yn cael ei wneud at swydd Cyd-gysylltydd Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) sy'n gyfrifol am oruchwylio proses MARAC pan fod gwybodaeth yn cael ei rhannu am achosion cam-drin domestig risg uchel.
Dyraniad cyllideb: £26,117

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Eiriolaeth a Chefnogaeth i Ddioddefwyr Stelcio
Trosolwg:  Mae eiriolwyr stelcio annibynnol, fel Gweithwyr Achos Eiriolaeth Stelcio Annibynnol (ISAC yn Saesneg) yn rhoi cymorth hollbwysig i ddioddefwyr stelcio. Maent yn eu helpu nhw i lywio cymhlethdodau eu sefyllfa a chael mynediad at adnoddau angenrheidiol. Mae arian yn cael ei ddyrannu i sicrhau bod cymorth pwrpasol ar gael i ddioddefwyr stelcio yn y dyfodol.
Dyraniad cyllideb: £50,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Ymateb i Stelcio
Trosolwg:  Bydd arian ar gael i ddatblygu a gwella ymatebion i stelcio yng Ngwent. Mae gwaith yn mynd rhagddo i benderfynu beth yw'r gofynion ac i ddyrannu swm priodol o arian i gefnogi'r gofynion hynny.
Dyraniad cyllideb: I’w gadarnhau

Gwasanaeth / ymyrraeth:  TABW – Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro
Trosolwg:  Mae'r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod dioddefwyr cam-drin domestig a gyflawnwyd gan yr heddlu yn derbyn eiriolaeth a chefnogaeth briodol trwy gyflogi dau ymgynghorydd Trais a Gyflawnwyd gan yr Heddlu annibynnol. Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro yw'r gwasanaeth arweiniol sy'n cynnal ac yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am y cynllun treialu ac yn gweithio'n agos iawn gyda Cyfannol, y darparwr gwasanaeth yng Ngwent.   
Dyraniad cyllideb: £35,011

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Rhaglen Cautioning and Relationship Abuse (CARA) – Merthyr Tudful Mwy Diogel
Trosolwg:  Mae hon yn rhaglen ymyrraeth gynnar i gyflawnwyr sy'n gallu rhoi sylw i ymddygiad amhriodol trwy ddatrysiad y tu allan i'r llys i gyflawnwyr cam-drin domestig, gyda'r bwriad o leihau aildroseddu a niwed. Caiff ei chomisiynu ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru. Mae'n cael ei darparu dan drwydded gan Safer Merthyr Tydfil, a fydd yn gweithio gyda Phoenix DAS. Datblygwyd CARA gan Hampton Trust ac maen nhw'n rhoi cymorth i bartneriaid cyflawni i sefydlu'r gwasanaeth a'i redeg yn barhaus. Bydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Ymyraethau Troseddwyr Cam-drin Domestig y Swyddfa Gartref tan fis Medi 2026 pan fydd yr arian yn dod i ben.
Dyraniad cyllideb: £50,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  MATAC
Trosolwg:  Tîm o Heddlu Gwent yw MATAC (Multi Agency Tasking and Coordination) a sefydlwyd i adnabod ac ymdrin â throseddwyr cam-drin domestig risg uchel yn rhan o gais am arian o Gronfa Ymyraethau Troseddwyr Cam-drin Domestig y Swyddfa Gartref. Mae £259,529 wedi cael ei ddyrannu i ariannu'r prosiect tan fis Medi 2026.
Dyraniad cyllideb: £259,529

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Rhaglen Drive
Trosolwg:  Ymyrraeth yw Drive i geisio lleihau cam-drin domestig trwy weithio gyda throseddwyr risg uchel er mwyn newid eu hymddygiad ac amddiffyn dioddefwyr. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu cyllid i gyflwyno'r rhaglen ledled Cymru a Lloegr, felly nid oes disgwyl y bydd angen i'r Comisiynydd ddarparu cyllid ar ei chyfer. Mae'r rhaglen ar y cam cynllunio o hyd yng Ngwent, yn aros i gael cyllid cyn y gellir dechrau ei defnyddio. Nid yw dyraniad cyllid y Swyddfa Gartref wedi ei gadarnhau.
Dyraniad cyllideb: £0

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Safle Tystiolaeth o Bell
Trosolwg:  Mae Safle Tystiolaeth o Bell Gwent o fewn Ystâd Heddlu Gwent ar hyn o bryd ac mae'n cael ei weithredu gan Cymorth i Ddioddefwyr.  Caiff y gwasanaeth ei ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru trwy'r Tîm VAWDASV Rhanbarthol.  Gall dioddefwyr trais rhywiol neu ddomestig wneud cais am fesurau arbennig i sicrhau eu bod yn gallu rhoi tystiolaeth hyd eithaf eu gallu. Un o'r mesurau y gellir eu caniatáu yw rhoi tystiolaeth trwy gyfrwng cyswllt fideo.
Dyraniad cyllideb: £22,971

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Trosolwg:  Datblygwyd Fframwaith Glasbrint VAWDASV i gefnogi cyflawni Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru, gan greu strwythur llywodraethu ar y cyd a chynllun gweithredu sy'n tynnu ynghyd bartneriaid o gyrff cyhoeddus, sector preifat ac arbenigol i gyflwyno dull system gyfan ar y cyd.
Dyraniad cyllideb: £40,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Gofyn am Angela
Trosolwg:  Mae'r cynllun hwn yn helpu unrhyw un sy'n teimlo'n agored i niwed ar noson allan i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Pwrpas y dyraniad hwn yw helpu i gyflwyno'r ymgyrch hon yn ehangach yng Ngwent.
Dyraniad cyllideb: £20,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cyfraith Raneem
Trosolwg:  Ymgyrch yw hon sy'n cael ei threialu gan y Swyddfa Gartref, gyda'r nod o wella'r ymateb i gam-drin domestig yn y Deyrnas Unedig.  Y nod yw gosod arbenigwyr cam-drin domestig mewn ystafelloedd rheoli galwadau 999. Disgwylir i'r prosiect gael ei gyflwyno yn ystod 2026 ac mae dyraniad wedi ei wneud i gefnogi'r gwaith hwn os bydd Gwent yn llwyddo i fod yn rhan o ail gam y cyflwyno.
Dyraniad cyllideb: £40,000

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Rhaglen Gymorth Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru (WSAS)
Trosolwg:  Disgwylir cyfraniad at waith y Rhaglen WSAS ond mae angen penderfyniad o hyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
Dyraniad cyllideb: I’w gadarnhau

Rhoi Blaenoriaeth i Ddioddefwyr

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Gwasanaethau Dioddefwyr ar gyfer Oedolion a Phlant - Cymorth i Ddioddefwyr
Trosolwg:  Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu i ddarparu gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr a thystion troseddau yng Ngwent. Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi derbyn contract rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2028 i ddarparu cymorth parhaus i ddioddefwyr sy’n oedolion a phlant.   Caiff ei ariannu gan grant Gwasanaethau i Ddioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £409,068

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Uned Gofal Dioddefwyr – Heddlu Gwent
Trosolwg:  Mae Uned Gofal Dioddefwyr yn cael ei gweithredu gan Heddlu Gwent ac mae'n asesu ac yn brysbennu dioddefwyr sy'n dod i gysylltiad â'r Heddlu. Bydd cyfraniad yn cael ei wneud at ddarparu'r gwasanaeth hwn gan Grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £135,214

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol – New Pathways
Trosolwg:  Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu i ddarparu Eiriolaeth Trais Rhywiol Annibynnol i ddioddefwyr o unrhyw oedran neu ryw yr effeithir arnynt gan drais rhywiol, i'w cefnogi i ymdopi ac adfer o'u profiad. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan New Pathways o dan gontract rhwng Gorffennaf 2024 a Mawrth 2027, wedi'i ariannu gan grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae'n gontract ar y cyd rhwng swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu a throsedd De Cymru, Gwent a Dyfed Powys. Mae cyfraniad Swyddfa'r Comisiynydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £510,734

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol – Cyngor Dinas Casnewydd
Trosolwg:  Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu i gyd-gysylltu cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig dros 16 oed sydd wedi eu hasesu i fod yn risg uchel. Bydd y gwasanaeth yn gwella eu diogelwch, eu hiechyd a'u lles a'u gallu i ymdopi â bywyd bob dydd. Mae Bwrdd VAWDASV Gwent, y mae'r Comisiynydd yn aelod ohono, yn gyfrifol am gyflawni strategaethau cam-drin domestig lleol ac mae partneriaid allweddol o'r bwrdd hwn wedi cytuno i ariannu gwasanaeth Cyngor Annibynnol ar Drais Domestig rhanbarthol ledled Gwent. Bydd grant blynyddol yn cael ei ddarparu i Gyngor Dinas Casnewydd i gyfrannu at ddarparu'r gwasanaeth. Mae cyfraniad Swyddfa'r Comisiynydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Grant Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dyraniad cyllideb: £156,363

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cynyddu’r Gwasanaeth Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol
Trosolwg:  Efallai y bydd dyraniad ar gael i alluogi mwy o ddioddefwyr ymosodiad rhywiol i gael cymorth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i bennu'r gofynion a dyrannu cyllideb briodol.
Dyraniad cyllideb: I’w gadarnhau

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Cyllid ar gyfer Dioddefwyr Cam-drin Domestig - risg safonol / canolig
Trosolwg:  Efallai y bydd dyraniad ar gael i alluogi mwy o ddioddefwyr ymosodiad rhywiol i gael cymorth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i bennu'r gofynion a dyrannu cyllideb briodol.
Dyraniad cyllideb: I’w gadarnhau

Gwasanaeth / ymyrraeth:  Llwybr Llys Teulu
Trosolwg:  Mae'r model Llwybr Llys Teulu yn treialu dull datrys problemau at achosion cyfraith breifat, sy’n canolbwyntio’n benodol ar wella ymateb y llys i'r rhai yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig a’i nod yw rhoi pwyslais ar lais y plentyn mewn achosion.

Derbyniodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru hysbysiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y dyraniad grant o £336,000 ar gyfer Braenaru De-ddwyrain Cymru wedi'i bennu ar gyfer 2026-27. Mae'r cyllid yn cael ei dalu'n uniongyrchol i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru o'r Swyddfa Gartref sy'n ariannu Merthyr Tudful Mwy Diogel i'w gyflawni mewn partneriaeth â Phoenix DAS yng Ngwent. Mae tua 40% o'r gyllideb gyffredinol yn debygol o gael ei dyrannu i'w gyflawni yng Ngwent.
Dyraniad cyllideb: £0

Lleihau Aildroseddu

Gwasanaeth / ymyrraeth: One Wales - Gwasanaeth Menywod ac Oedolion Ifanc – The Nelson Trust
Trosolwg:  Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i ddargyfeirio pobl oddi wrth y System Cyfiawnder Troseddol trwy ddatrysiadau y tu allan i'r llys ac ymgysylltu gwirfoddol, gyda'r nod o leihau aildroseddu trwy roi sylw i angen sy'n debygol o arwain at drosedd trwy asesu a rhoi cymorth i fenywod ac oedolion ifanc 18-25 oed.

Dyfarnwyd y contract presennol i The Nelson Trust ym mis Ebrill 2024 tan fis Mawrth 2027 ac mae wedi’i gomisiynu ar y cyd â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Mae Gwasanaethau Adsefydlu Cymunedol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â'r gwasanaeth dargyfeirio menywod ac oedolion ifanc.
Dyraniad cyllideb: £355,584

Gwasanaeth / ymyrraeth: Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent - G4S (fel is-gontractwr Kaleidascope)
Trosolwg:  Darparu cymorth i'r bobl hynny yn y system cyfiawnder troseddol sydd angen rhoi sylw i'w camddefnydd o sylweddau gyda'r nod o leihau ail-droseddu. Mae Swyddfa'r Comisiynydd yn comisiynu elfen cyfiawnder troseddol y gwasanaeth gyda'r gwasanaeth Prawf, ochr yn ochr â'r gwasanaeth camddefnyddio sylweddau mynediad agored yng Ngwent. Caiff y gwasanaeth ei gomisiynu trwy Gyngor Casnewydd a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gwent. Cafodd y gwasanaeth ei ail gomisiynu ym mis Ebrill 2022 ac mae'r contract i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2028.
Dyraniad cyllideb: £901,071

Gwasanaeth / ymyrraeth: Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Trosolwg:  Cyfraniad at waith y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yng Ngwent sy'n gweithio i ddarparu prosiectau a gwasanaethau ledled y pum ardal awdurdod lleol, a fydd yn cefnogi gwaith i gyflawni blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae dyraniad o gyllid uniongyrchol y Comisiynydd wedi’i bennu ar gyfer y ffrwd ariannu hon.  Bydd pob gwasanaeth troseddau ieuenctid yn llenwi ffurflen gynnig yn amlinellu ei fwriad ynghylch sut y bydd y dyraniad yn cael ei wario ac yn darparu adroddiad monitro pob chwe mis.

Gwneir y dyraniad blynyddol i bob gwasanaeth troseddau ieuenctid yn seiliedig ar fformiwla gytûn, a'r dyraniad ar gyfer pob Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid fydd:

  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen £68,599
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili £91,695
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Casnewydd £71,405

Dyraniad cyllideb: £231,699

Gwasanaeth / ymyrraeth: CydgysylltyddBwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan
Trosolwg:  Mae'r cyfraniad hwn yn cefnogi trefniadau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, sy'n dwyn partneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru at ei gilydd gyda'r nod o leihau troseddu a gwneud cymunedau'n fwy diogel trwy gyflawni canlyniadau a phrofiadau gwell i'r rheini sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, boed hynny fel dioddefwyr, tystion, neu droseddwyr. Mae'r cyfraniad yn mynd tuag at swydd Cydgysylltydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru  a chyllideb heb gyflogau briodol i gefnogi gwaith y Bwrdd.
Dyraniad cyllideb: £10,400

Gwasanaeth / ymyrraeth: Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth a'r Panel Goruchwylio ac Ymgynghori Annibynnol
Trosolwg:  Mae'r cyfraniad hwn yn cefnogi rhoi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar waith. Mae'r Cynllun Cyfiawnder Troseddol yn gweithio gyda Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol  Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ar 7 Mehefin 2022, i sicrhau bod system gyfan yn cael ei rhoi ar waith - un ymateb gwasanaeth cyhoeddus i hiliaeth yng Nghymru.

Cytunodd Plismona yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2024 i gyflwyno cyllid am flwyddyn hyd at 2025-26 ar gyfer gwaith pellach i'w wneud i ganfod gwerth y gwaith hwn ar sail Cymru gyfan.
Dyraniad cyllideb: £22,772