Adroddiad Comisiynu Blynyddol 2025/26
Darparu cymorth, gweithgareddau atal a chymunedau mwy diogel ledled Gwent
Portffolio comisiynu'r Comisiynydd
Mae'r Comisiynydd yn comisiynu portffolio amrywiol o wasanaethau i gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Caiff y gwasanaethau hyn eu darparu trwy gontractau, grantiau, a chyfraniadau partneriaeth, ac mae gweithgareddau yn cynnwys cymorth i ddioddefwyr, cam-drin domestig, trais rhywiol, camddefnyddio sylweddau, ymyraethau ieuenctid, diogelwch cymunedol a lleihau aildroseddu.
Yn 2025/26, cyfanswm yr arian a fuddsoddwyd mewn gwasanaethau a gomisiynir a gweithgareddau partneriaeth cysylltiedig oedd £6.9 miliwn. Ochr yn ochr â gwasanaethau craidd a gomisiynwyd, bu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (Swyddfa’r Comisiynydd) yn rheoli rhaglenni wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref, gan gefnogi ymyraethau cam-drin domestig, atal trais difrifol, gweithgareddau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwasanaethau i ddioddefwyr.
Mae gwasanaethau yn cael eu monitro trwy oruchwylio perfformiad a goruchwylio ariannol rheolaidd, cyfarfodydd adolygu gyda darparwyr a, lle y bo'n briodol, ymgysylltiad gydag asiantaethau plismona a phartneriaid. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei anelu at wasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth y gellir ei fesur.
Cyllid Grant y Comisiynydd
Cafodd rhaglen grantiau'r Comisiynydd ei hailgynllunio a'i hehangu yn ystod y flwyddyn. Cafodd dwy gronfa sy'n bodoli eisoes, Cronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (y Comisiynydd) a'r Gronfa Partneriaeth Cymunedol eu diweddaru; a sefydlwyd Cronfa Ymgysylltu â'r Gymuned newydd. Llwyddodd y newidiadau hyn i wella hygyrchedd, cynyddu galw a chryfhau trefniadau llywodraethu.
Yn rownd gyntaf ceisiadau ar gyfer Cronfa Gymunedol y Comisiynydd, derbyniwyd mwy na 50 o geisiadau; a chafodd 22 o brosiectau eu hariannu am gyfanswm o £585,000. Roedd hyn yn gymorth i ni gyrraedd amrywiaeth ehangach o sefydliadau a chymunedau, gan gynnwys grwpiau nad oeddent wedi derbyn cyllid gan Swyddfa'r Comisiynydd o'r blaen.
Atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
O dan y flaenoriaeth hon, buddsoddodd y Comisiynydd mewn gweithgareddau ymyrraeth ac atal cynnar, yn bennaf trwy gyllid grant. Dyfarnwyd 57 o grantiau, gan gynnwys darpariaeth strategol fel Dyfodol Cadarnhaol; ymatebion pwrpasol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol; a phrosiectau dan arweiniad y gymuned trwy Gronfa Gymunedol y Comisiynydd, y Gronfa Bartneriaeth a'r Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned.
Prif weithgareddau a chanlyniadau
- Ymgysylltodd Dyfodol Cadarnhaol gyda 5,200 o bobl ifanc trwy ddarpariaeth mynediad agored yn y gymuned a darparodd 176 o sesiynau dargyfeiriol neu sesiynau maes heb eu trefnu.
- Nododd Dyfodol Cadarnhaol sgiliau bywyd gwell ymysg y bobl ifanc, mwy o ymgysylltiad mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a mwy o gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, cymdeithasol a chymunedol.
- Rhoddodd Cronfa Gymunedol y Comisiynydd gymorth i 27 o brosiectau a oedd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar gyda phobl ifanc mewn perygl o droseddu neu o fod yn ddioddefwyr.
- Dyfarnodd y Gronfa Ymgysylltu 17 o grantiau i gefnogi digwyddiadau diwylliannol a chymunedol a chryfhau perthnasoedd rhwng cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yr heddlu.
Astudiaeth achos: Dyfodol Cadarnhaol
Roedd person ifanc a oedd wedi cael ei atgyfeirio gan ysgol yn profi helbul sylweddol ac yn dechrau ymwneud â grwpiau cyfoedion risg uchel. Derbyniodd gymorth wythnosol a oedd yn cynnwys esiampl o ymddygiad cadarnhaol gan weithwyr gwrywaidd, gweithgareddau strwythuredig, ac amser i drafod teimladau, dicter a gwneud penderfyniadau. Dros amser, roedd y person ifanc yn gallu deall risgiau ac ymddygiad yn well a datblygodd ei hyder trwy weithgareddau diogel a chadarnhaol.
Gwneud ein cymunedau'n fwy diogel
Dyfarnodd y Comisiynydd 29 grant i gefnogi diogelwch cymunedol, atal trais difrifol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dosbarthwyd cyllid ar draws awdurdodau lleol, partneriaethau diogelwch cymunedol, darparwyr arbenigol ac ymyraethau pwrpasol fel cyllid ar gyfer mannau lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei waethaf.
Trais difrifol a diogelwch cymunedol
- Darparwyd 13 prosiect Dyletswydd Trais Difrifol ledled Gwent, gan gynnwys darpariaeth ieuenctid, atal seiliedig mewn ysgolion, cymorth therapiwtig a mentrau diogelwch cymunedol. Mae'r canlyniadau'n cynnwys y canlynol:
- Dywedodd 78% o blant a oedd yn derbyn cwnsela arbenigol eu bod yn gallu ymdopi â bywyd yn well.
- Dywedodd 92% o'r bobl ifanc a ymgysylltodd â sesiynau Street Doctors yng Nghaerffili eu bod yn teimlo'n fwy hyderus i ymateb i argyfwng meddygol.
- Darparodd Ymddiriedolaeth Crimestoppers 343 sesiwn Fearless i fwy na 7,000 o bobl ifanc a 700 o weithwyr proffesiynol.
- Rhoddodd St Giles Trust gymorth i 91 o bobl ifanc a oedd yn ymwneud â thrais difrifol a throseddau cyfundrefnol trwy ddarpariaeth un i un dwys.
Gweithgareddau pwrpasol mewn mannau lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol ar eu gwaethaf
Llwyddodd Ymgyrch Lumley i ddarparu mwy o blismona amlwg mewn ardaloedd gyda'r lefelau uchaf o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol. Cyflawnodd fwy na 7,200 o oriau patrôl ychwanegol ar draws 19 ardal lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol ar eu gwaethaf a derbyniwyd sylwadau cadarnhaol gan fusnesau a phreswylwyr am amlygrwydd, hyder a lleihad ymddangosiadol mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Astudiaeth achos: Cymorth trais difrifol
Roedd person ifanc a oedd yn derbyn cymorth trwy brosiect trais difrifol wedi bod yn ymladd yn aml ac yn agored i risgiau cysylltiedig â sylweddau, bygythiadau a pherthnasoedd peryglus gyda chyfoedion. Gyda chymorth cyson, dechreuodd gydnabod lefel y perygl o'i gwmpas, lleihau ei ddefnydd o sylweddau, camu yn ôl oddi wrth gyfeillgarwch negyddol ac nid oes unrhyw achosion o ymladd wedi cael eu nodi yn ddiweddar.
Astudiaeth achos: Fearless
Rhoddodd sesiynau Fearless gymorth i bobl ifanc ddeall troseddau casineb, gwahaniaethu a'r gyfraith. Creodd hwyluswyr medrus fannau diogel, lle'r oedd pawb yn trin ei gilydd gyda pharch a lle y gellid ymchwilio'n ddiogel i safbwyntiau heriol, gan ei gwneud yn amlwg bod ymddygiad niweidiol neu wahaniaethol yn annerbyniol. Roedd y sesiynau hyn yn pwysleisio cyfrifoldeb, parch a chydraddoldeb.
Amddiffyn pobl agored i niwed
Parhaodd y Comisiynydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau ac ymyraethau i roi sylw i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r portffolio'n cynnwys cymorth uniongyrchol i ddioddefwyr, ymyraethau gyda thramgwyddwyr a gweithgareddau partneriaeth sy'n gwella cydgysylltiad ar draws y system ehangach.
Uchafbwyntiau o 2025/26
- Gweithiodd y gwasanaeth TABW, sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnwyd gan yr heddlu, gyda 27 o unigolion. O'r rheini a adawodd y gwasanaeth, nododd 83% ohonynt fod eu gallu i ymdopi ac adfer wedi gwella.
- Derbyniodd y Llwybr Llys Teulu 346 o atgyfeiriadau yng Ngwent, a chysylltwyd yn llwyddiannus gyda 94% ac aeth 83% ymlaen i dderbyn asesiadau ystyriol o drawma arbenigol.
- Rhoddodd y rhaglen ymyrraeth Cautioning and Relationship Abuse (CARA) gymorth ymyrraeth gynnar i dramgwyddwyr cam-drin domestig. Dywedodd dioddefwyr bod ymddygiad tramgwyddwyr wedi newid er gwell a bod tramgwyddwyr yn fwy ymwybodol o'u hymddygiad ac wedi cael eu hannog i newid.
- Cynhaliodd y tîm MATAC (Multi Agency Tasking and Coordination) asesiad o 179 o dramgwyddwyr addas ar gyfer y rhaglen a rhoddodd gefnogaeth i 116 o ddioddefwyr trwy ymateb amlasiantaeth i gam-drin domestig risg uchel.
Astudiaeth achos: CARA
Atgyfeiriwyd unigolyn yn dilyn digwyddiad cam-drin domestig cysylltiedig ag alcohol. Trwy'r gweithdai CARA, cafodd gyfle i fyfyrio ar berthnasoedd, rheoli emosiynau ac effaith ei ymddygiad. Erbyn diwedd y rhaglen, cymerodd fwy o gyfrifoldeb a gwellodd ei ymwybyddiaeth emosiynol, a dywedodd y dioddefwr bod cyfathrebu wedi gwella a bod newidiadau cadarnhaol o fewn y teulu.
Rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr
Parhaodd y Comisiynydd i ariannu portffolio cynhwysfawr o wasanaethau i ddioddefwyr yng Ngwent, sy'n cael eu darparu trwy gontractau, grantiau a chyfraniadau gan bartneriaid. Yn 2025/26 roedd hyn yn cynnwys dau gontract, un gwasanaeth yn cael ei ariannu trwy grant a chyfraniad at Uned Gofal Dioddefwyr Heddlu Gwent, gyda chyllid gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Cymorth i ddioddefwyr troseddau
- Derbyniodd Cymorth i Ddioddefwyr 2,206 atgyfeiriad a rhoddodd gymorth i 643 o ddioddefwyr newydd, yn cynnwys oedolion, plant a phobl ifanc.
- O'r rheini a oedd yn gadael Cymorth i Ddioddefwyr, dywedodd 88% eu bod wedi gwneud cynnydd cadarnhaol eu bod yn teimlo'n fwy diogel, bod eu lles yn well a'u bod yn gallu ymdopi yn well.
- Derbyniodd New Pathways 694 o atgyfeiriadau newydd a rhoddodd gymorth i 1,073 o unigolion a oedd wedi cael eu heffeithio gan dreisio a thrais rhywiol.
- Derbyniodd y Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig rhanbarthol 1,639 o atgyfeiriadau a rhoddodd gymorth i 1,727 o achosion, gan gysylltu â mwy na 8,000 o gleientiaid.
Astudiaeth achos: Cymorth i berson ifanc gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA)
Roedd person ifanc a gafodd ei atgyfeirio at wasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol yn profi pryder sylweddol ac anawsterau wrth ymgysylltu ag addysg a'r broses cyfiawnder troseddol. Addasodd y Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol ei ffordd o gyfathrebu i fodloni anghenion y person ifanc, gan ddefnyddio deunyddiau gweledol ac ailadrodd gwybodaeth er mwyn meithrin hyder. Mae'r person ifanc yn cael cymorth yn awr gan wasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cwblhau cam allweddol yn y broses yn y llys ac mae'n edrych ymlaen yn fwy cadarnhaol at y dyfodol.
Astudiaeth achos: Cymorth i Ddioddefwyr Gwent
Penderfynodd dioddefwr hunan-atgyfeirio ar ôl achos o gam-drin domestig difrifol am ei fod yn cael trafferth ymdopi ac yn teimlo nad oedd y broses yn y llys yn glir. Cwblhaodd gweithiwr achos cam-drin domestig cymhleth asesiad o angen a risg, gan gynllunio ar gyfer diogelwch, darparu cymorth emosiynol, eiriolaeth a chyswllt rheolaidd. Dywedodd y dioddefwr ei fod yn teimlo'n fwy diogel ac yn fwy hyderus a dywedodd bod y cymorth yn amhrisiadwy.
Astudiaeth achos: Adborth gan ddefnyddiwr y gwasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA)
Disgrifiodd un defnyddiwr gwasanaeth sut roedd cymorth gan Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig wedi'i helpu trwy'r broses yn y llys, gyda heriau o ran llety, ac i adfer. Dywedodd ei fod yn teimlo bod rhywun yn ei gredu, ei fod yn fwy diogel ac yn gallu ail adeiladu ei fywyd. Mae'r adborth hwn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw eiriolaeth arbenigol, cymorth ymarferol a thosturi ochr yn ochr â'r broses cyfiawnder troseddol.
Lleihau Aildroseddu
Rhoddodd y Comisiynydd gyllid i gyfuniad o gontractau a grantiau i leihau aildroseddu ac i roi cymorth i unigolion yn y system cyfiawnder troseddol. Mae gwasanaethau'n darparu ymyrraeth gynnar, adsefydlu a chymorth ymarferol i unigolion ar wahanol gamau ar y llwybr cyfiawnder troseddol.
One Wales - Gwasanaeth Menywod ac Oedolion Ifanc
Rhoddodd One Wales - Gwasanaeth Menywod ac Oedolion Ifanc gymorth i 489 o unigolion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys 351 o fenywod a 138 o oedolion ifanc. Rhoddodd y gwasanaeth gymorth un i un, gwaith grŵp, gweithdai ac atgyfeiriadau i roi sylw i anghenion fel lles, perthnasoedd, sgiliau bywyd ac ymgysylltu ag addysg neu gyflogaeth.
Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol GDAS
Ymgysylltodd Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS) gyda 3,406 o unigolion yn y ddalfa, a nodwyd bod bron hanner ohonynt angen cymorth oherwydd camddefnyddio sylweddau. Gwnaed 953 atgyfeiriad newydd i wasanaeth Cyfiawnder Troseddol GDAS ar draws pob llwybr atgyfeirio. Roedd canlyniadau i bobl yn gadael y gwasanaeth yn cynnwys llai o ddefnyddio sylweddau ac alcohol, yn ogystal â gwell lles.
Astudiaeth achos: One Wales - Gwasanaeth Menywod ac Oedolion Ifanc
Llwyddodd menyw a oedd wedi bod yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda chymorth lles emosiynol, a chymerodd ran mewn sesiynau ysgrifennu creadigol, sesiynau un i un a sesiynau cymorth yn y llys. Roedd wedi profi pryder sylweddol yn ystod yr achos llys ond cafodd gymorth i ddeall y broses ac i gyfathrebu ynghylch yr hyn oedd ei angen arni. Cafodd yr achos ei gofnodi yn ddiweddarach fel un nad oedd angen gweithredu pellach, ac ers hynny mae hi wedi symud i fyw gartref, wedi magu hyder ac mae hi’n parhau i gael cymorth.
Astudiaeth achos: Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS)
Atgyfeiriwyd unigolyn yn wirfoddol at Wasanaeth Cyffuriau Ac Alcohol Gwent (GDAS) o'r ddalfa ar ôl cydnabod bod alcohol wedi cyfrannu at droseddu, methiant perthynas ac iechyd meddwl gwael. Gyda chynllun cymorth pwrpasol, sesiynau wythnosol a gwaith atal ailgwympo, cyflawnodd gyfnodau cyson o lwyr ymwrthod, gwellodd ei berthnasoedd gyda'r teulu, ail gysylltodd â ffrindiau a sicrhaodd swydd. Llwyddodd i gwblhau ei Ofyniad Triniaeth Alcohol ac mae'n parhau i gael cymorth.
Canlyniadau a'r gwahaniaeth mae ein gwasanaethau yn ei wneud
Mae gwasanaethau a gomisiynir gan y Comisiynydd yn helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau, cryfhau cymunedau a lleihau'r risg o niwed yn y dyfodol. Ar draws y portffolio, rhoddwyd cymorth i filoedd o ddioddefwyr, pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion a oedd yn ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol, gan ddarparu cymorth ymarferol, eiriolaeth arbenigol, ymyrraeth gynnar a chyfleoedd i wneud newid cadarnhaol. Gyda'i gilydd, mae'r gwasanaethau hyn yn helpu pobl i deimlo'n fwy diogel, gwella lles, lleihau ailddefnyddio sylweddau, lleihau aildroseddu a chyfrannu at gymunedau cryfach, mwy gwydn ledled Gwent.
Cydweithio
Mae cydweithio yn ganolog i'r ffordd mae Swyddfa'r Comisiynydd yn comisiynu. Mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio, eu hariannu a'u goruchwylio trwy berthnasoedd cadarn gyda sefydliadau gwirfoddol, awdurdodau lleol, partneriaid iechyd, asiantaethau cyfiawnder troseddol, Heddlu Gwent a grwpiau cymunedol.
Mae'r dull partneriaeth hwn o weithio yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n cyd-fynd ag angen lleol, osgoi dyblygu, cryfhau llwybrau atgyfeirio a sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael i ddioddefwyr, teuluoedd, cymunedau a phobl sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol.
Stiwardiaeth ariannol
Parhaodd Swyddfa'r Comisiynydd i oruchwylio portffolio cymhleth yn cynnwys pedwar contract a 93 grant. Roedd trefniadau rheolaeth ariannol yn cynnwys monitro gwariant yn rheolaidd, creu adroddiadau i gyd-fynd â pherfformiad a chanlyniadau, ac adolygu dulliau gweithredu gyda darparwyr i gefnogi gwerth am arian a chyflawni yn erbyn amcanion cytûn.
Edrych ymlaen at 2026/27
Yn ystod 2026/27, bydd y Tîm Comisiynu yn parhau i gryfhau perfformiad, darparu rhaglenni grant, ymateb i gyfleoedd ariannu a goruchwylio gwasanaethau a gomisiynir ledled Gwent.
Blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod
- Parhau i ddatblygu dangosfyrddau Power BI i wella gwaith monitro perfformiad a deall data.
- Cynnal y broses ymgeisio am gyllid grant, gan gynnwys y Gronfa Bartneriaeth a'r Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned, gyda'r nod o gynnal proses ychwanegol ar gyfer Cronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
- Ymateb i gyfleoedd ariannu, gan gynnwys Cronfa Tramgwyddwyr Cam-drin Domestig, Stelcio a Phlant y Swyddfa Gartref.
- Gweithio gyda phartneriaid i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno rhaglen DRIVE yng Ngwent.
- Dechrau blaengynllunio ar gyfer gwasanaethau ac ymyriadau sydd i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2028, gan ganolbwyntio ar barhad a darpariaeth effeithiol ar gyfer y dyfodol.
Parhau i ganolbwyntio ar effaith
Bydd Swyddfa'r Comisiynydd yn parhau i fonitro darpariaeth yn erbyn canlyniadau cytûn, cefnogi gwelliant parhaus a sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynir yn parhau i gyd-fynd â blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar atal troseddu, cymorth i ddioddefwyr, amddiffyn pobl agored i niwed, cymunedau mwy diogel a lleihau aildroseddu.