Dull System Gyfan a Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 y Cynllun Braenaru Merched

Ym mis Hydref 2019 ymunodd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Gwent a De Cymru â Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i gomisiynu dau wasanaeth newydd: Dull System Gyfan a Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 y Cynllun Braenaru Merched, i gefnogi merched a phobl ifanc a helpu i’w hatal rhag dechrau yn y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r gwasanaethau wedi’u sefydlu fel rhan o’r Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac fe’u darperir gan Gonsortiwm Future 4, sef G4S, Cymru Ddiogelach, Include a Llamau.

Maent yn darparu cymorth targed ar gyfer materion fel camddefnyddio alcohol a sylweddau a phroblemau iechyd meddwl wrth helpu i wella perthynas teuluoedd, atal y cylch o brofiadau andwyol yn ystod plentyndod a gwella cydlyniad cymunedol drwy leihau’r gyfradd sy’n aildroseddu. Mae’r gwasanaethau’n gweithio i arallgyfeirio unigolion o droseddu drwy greu rhwydwaith cymorth a’u helpu i fyw bywydau saffach ac iachach.

Cyflwynir y Dull System Gyfan drwy dri llwybr:
1. Camau Ymyrryd ac Atal Cynnar: Gweithio gyda menywod sydd mewn perygl o droseddu yn ogystal â’r rhai sydd wedi troseddu ar lefel isel.
2. Llwybr Statudol: O arestio neu bresenoldeb gwirfoddol gyda’r heddlu drwy brosesau cyfiawnder troseddol a thu hwnt.
3. Lleihau Cyfraddau Aildroseddu: Cefnogi menywod a pharhau i sicrhau y diwellir eu hanghenion, gan gynnwys cael gafael ar wasanaethau cymunedol a statudol os oes angen.
Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 yn cefnogi person ifanc pan gaiff ei arestio yng Ngwent neu De Cymru. Os nad yw am gael ei gyhuddo o drosedd, cânt eu hannog i fanteisio ar y cyfle i osgoi cofnod troseddol yn y dyfodol.

Mae Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru Merched a’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 wedi’u cymeradwyo gan Ddirprwy Weinidog a Phrif Chwip Cymru, Jane Hutt a’r Comisiynydd Dioddefwyr, Y Fonesig Vera Baird QC.

*Mae bywyd Hayley wedi’i adfywio gyda chymorth y Dull System Gyfan:

“Pan gefais fy arestio roeddwn i’n teimlo fel bod fy mywyd ar ben, roedd hi’n ofnadwy. Dim ond ar ôl i’r Dull System Gyfan gysylltu â mi yr oeddwn i’n teimlo fel nad oeddwn i ar fy mhen fy hun. Maen nhw wedi rhoi gorwelion newydd i mi.

“Maen nhw wedi fy rhoi mewn cysylltiad â banciau bwyd, rwyf wedi bod ar gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cymaint o gyfleoedd ar gael.
“Heblaw am y Dull System Gyfan, fyddwn i wedi gwybod dim am y peth. Mae gen i’r gweithiwr cymorth gorau erioed.”
*Nid ei henw iawn

Dysgwch fwy