Dyfodol Cadarnhaol

Mae Dyfodol Cadarnhaol yn rhaglen cynhwysiant cenedlaethol wedi’i seilio ar chwaraeon sy’n defnyddio chwaraeon fel arf i ymgysylltu â phobl ifanc.

Darperir gweithgareddau am ddim mewn lleoliadau fel clybiau ieuenctid, canolfannau hamdden, parciau neu yng nghanol ystadau tai, ac maent wedi’u targedu at ardaloedd lle nodwyd bod problem o ran troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r tîm Dyfodol Cadarnhaol yn cynnal amrywiaeth o sesiynau mynediad agored gwirfoddol ledled Gwent, yn ogystal â gwaith targed gyda phobl ifanc drwy atgyfeiriadau o asiantaethau partner.

Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael eu cefnogi gan fentoriaid hŷn pan fyddant yn iau, mae Dyfodol Cadarnhaol yn atgyfnerthu ymddygiad da ac yn helpu i osod y sylfeini a fydd yn caniatáu iddyn nhw gael dyfodol hapus ac iach.

Stori C

Mae C yn 13 oed ac yn byw yng Nghasnewydd gyda’i fam a’i dri brawd a chwaer iau. Mae Mam yn ddioddefwr cam-drin domestig ac yn ei chael hi’n anodd rheoli C a’i ymddygiad. Nid yw Dad yn byw gyda’r teulu ac nid yw’n ffigwr cyson ym mywyd C. Roedd C yn dyst i’r cam-drin domestig rhwng mam a dad ac mae’n ei chael yn anodd ymdrin â’i emosiynau. Mae ganddo anghenion dysgu ychwanegol hefyd ac mae wedi’i ddiarddel o’r ysgol yn ddiweddar. Mae C yn blentyn hynod agored i niwed ac mewn perygl mawr o gael ei ecsbloetio’n droseddol gan bobl ifanc hŷn yn eu harddegau ac oedolion yn yr ardal. Mae’r heddlu yn ei adnabod oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn.

Cafodd C ei atgyfeirio i’r tîm Dyfodol Cadarnhaol drwy’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Trwy sesiynau wythnosol gyda’r tîm, mae wedi dechrau meithrin perthynas ag oedolion y mae’n ymddiried ynddynt ac mae’n gweithio gyda dynion sy’n esiamplau cadarnhaol, rhywbeth nad oes ganddo yn ei fywyd o ddydd i ddydd.

Ers dechrau gyda Dyfodol Cadarnhaol mae C bellach yn gwneud mwy o ymarfer corff, yn mwynhau’r gampfa a rhoi cynnig ar chwaraeon newydd fel nofio. Mae ei ymddygiad a’i iaith wedi gwella ac mae wedi dechrau ymlacio ac ymddiried yn y tîm Dyfodol Cadarnhaol. Mae’r tîm wedi gweithio gyda C i’w helpu i ddeall, oherwydd ei ymddygiad yn y gorffennol, fod yr heddlu yn gwybod ei enw ac maen nhw’n parhau i’w fonitro’n ofalus ac mae’n deall bod angen iddo ymddwyn er mwyn i hyn newid.

Ar hyn o bryd, mae C yn aros am le addysg addas ac mae’r tîm Dyfodol Cadarnhaol yn parhau i’w gefnogi.