Gwirfoddolwyr Blaenau Gwent yn dathlu yn seremoni wobrwyo GAVO

19eg Tachwedd 2026

Mae dau o wirfoddolwyr Blaenau Gwent wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau i'w cymunedau yn seremoni wobrwyo gwirfoddoli flynyddol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO).

Cyflwynodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jane Mudd y Wobr Taith Ysbrydoledig i Jamie Williams ac Erin Richards, gan gydnabod y rhwystrau y maent wedi'u goresgyn fel gwirfoddolwyr a'r cyfraniadau amhrisiadwy y maent yn eu gwneud.

Mae Jamie’n gwirfoddoli yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd, lle mae'n cefnogi digwyddiadau cymunedol. Mae hefyd yn aelod allweddol o grŵp gwirfoddol ieuenctid Llan Fusion ac yn cefnogi sesiynau Awr Hapus y sefydliad, gan helpu i greu lle cynhwysol sy'n dod â phobl ynghyd ac sy’n lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae Erin yn gweithio gyda'r gymuned yn Sefydliad Glynebwy gan roi o’i hamser ddwywaith yr wythnos i gefnogi'r Pantri Cymunedol, Caffi Dementia Blodyn Haul a digwyddiadau teuluol.

Dywedodd Jane Mudd: "Mae gwirfoddolwyr mor bwysig i'n cymunedau. Mae pob awr sy’n cael ei threulio’n gwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth. Heb ewyllys da, gwaith caled ac ymrwymiad gwirfoddolwyr niferus Gwent, byddai ein cymdeithas gymaint yn dlotach.

"Mae Jamie ac Erin yn gwneud cyfraniad gwych i'w cymunedau. Drwy gydol eu teithiau gwirfoddoli, maen nhw wedi dangos gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad i eraill sy'n haeddu cydnabyddiaeth. Maen nhw’n llwyr haeddu'r wobr hon."