Lleisiwch eich barn ar blismona yng Ngwent

11eg Tachwedd 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, yn gofyn i breswylwyr am eu barn ar blismona yng Ngwent.

Mae Comisiynydd Mudd yn awyddus i ddeall barn preswylwyr ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys eu hyder mewn plismona, a'u barn ar gyllid yr heddlu ar gyfer 2027/28.

Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae preswylwyr yn ei dalu tuag at blismona bob mis trwy'r dreth gyngor. Mae bron i 43 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent yn dod o daliadau'r dreth gyngor lleol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf eu bod eisiau presenoldeb heddlu mwy gweladwy. Maen nhw eisiau gweld mwy yn cael ei wneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed ac i ymdrin ag achosion sylfaenol troseddu.

"Ers i mi gael fy ethol yn 2024, rwyf wedi bod yn falch o gyflawni pob un o'r amcanion hyn. Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad arnom ni i gynnal y gwaith hwn ac i dalu am gostau parhaus cynnydd blaenorol yn niferoedd swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu.

"Cyn i mi wneud unrhyw benderfyniadau ar gyllideb Heddlu Gwent ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf eisiau rhoi cyfle i chi leisio eich barn, nodi unrhyw bryderon, neu rannu eich sylwadau. Rwyf yn addo y bydd eich sylwadau'n cael eu darllen a'u hystyried, ac y byddant yn dylanwadu ar fy mhenderfyniadau.

"Treuliwch ychydig o funudau yn cwblhau fy arolwg ac yn lleisio eich barn."

I gymryd rhan, ewch i: https://gwentpolice.questionpro.com/haveyoursay2026

Mae'r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, trwy e-bostio commissioner@gwent.police.uk neu ffonio 01633 642200.