SUT I WNEUD CWYN YN ERBYN Y COMISIYNYDD A'R DIRPRWY GOMISIYNYDD

Mae'r Comisiynydd yn cynrychioli'r gymuned a rhaid iddo ef neu hi ymddwyn mewn ffordd nad yw'n dwyn anfri ar ei swydd.Mae'r Comisiynydd yn ddarostyngedig i God Ymddygiadsy'n amlinellu'r safonau ymddygiad personol a’r safonau moesegol a ddisgwylir.

Panel Heddlu a Throsedd Gwent(y Panel) yw'r Awdurdod Priodol ar gyfer ymdrin ag unrhyw gŵynion yn erbyn y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd. Fodd bynnag, bydd unrhyw honiad o gamymddwyn neu unrhyw gŵyn yr ystyrir i fod yn ddifrifol, yn cael ei chyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Ni fydd y Panel yn ymdrin â chwyn ddifrifol neu honiad o gamymddwyn oni bai eu bod wedi cael eu cyfeirio yn ôl ato gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Os ydych am wneud cwyn am y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd, dylech lawr lwytho'r ffurflen cwynion a ddarperir ar wefan y Panel.  Dylid cyfeirio pob cwyn at:

Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Neu

E-bost: gwentpcp@caerphilly.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cwyn yn erbyn y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd ar wefan y Panel Heddlu a Throsedd.