Gwybodaeth Ymwadiad

Datganiad Hawlfraint

Mae’r deunydd ar y wefan hon wedi’i ddiogelu gan hawlfraint. Awdurdod Heddlu Gwent yw perchennog yr hawlfraint. Ni chewch addasu nac ychwanegu at y deunydd ar y wefan hon, na’i werthu na’i gamddefnyddio. Gellir lawrlwytho neu gopïo deunydd at ddefnydd personol. Fodd bynnag, mae gofyn cydnabod perchennog yr hawlfraint os bydd deunydd yn cael ei ailgyhoeddi mewn unrhyw fformat.


Ymwadiad Cyfreithiol

Caiff yr wybodaeth a gynhwysir ac y ceir mynediad ati trwy’r cyfleuster hwn ei darparu gan Awdurdod Heddlu Gwent fel canllaw cyffredinol ac mae wedi’i bwriadu i gynnig i’r defnyddiwr wybodaeth gyffredinol sydd o ddiddordeb. Nid yw Awdurdod Heddlu Gwent yn sicrhau nac yn gwarantu y bydd y cyfleuster hwn ar gael yn ddi-dor, heb oedi, heb wallau, heb hepgoriadau, na heb firysau. Felly mae’r wybodaeth yn cael ei darparu "fel ag y mae" heb unrhyw warantau o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n ddealledig, gan gynnwys o safbwynt cywirdeb, amseroldeb a chyflawnder. Beth bynnag a ddigwydd, ni fydd Awdurdod Heddlu Gwent, ei bartneriaid, ei asiantau, ei swyddogion na’i gyflogeion yn atebol am golled na difrod o unrhyw fath o gwbl (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, atebolrwydd am golli defnydd, data neu elw), a allai ddeilio o neu mewn perthynas â’r cyfleuster, unrhyw gynnwys ar y cyfleuster neu y ceir mynediad ato trwy ddefnyddio’r cyfleuster, neu unrhyw weithred i gopïo neu arddangos y cynnwys neu wneud defnydd arall ohono.


Polisi Preifatrwydd

Bydd gwybodaeth a ddarperir ar gyfer Awdurdod Heddlu Gwent gan ddefnyddwyr trwy ddefnyddio’r wefan hon yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei datgelu wrth drydydd partïon oni bai fod hynny’n ofynnol yn gyfreithiol.

Mae Awdurdod Heddlu Gwent yn casglu gwybodaeth am ddefnyddio’r wefan er mwyn ymorol am welliant parhaus ein gwasanaeth trwy’r wefan ar gyfer y cyhoedd. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys: Gwybodaeth a ddarperir yn wirfoddol gan ddefnyddwyr trwy ffurflenni adborth ar-lein. Ni ellir cysylltu data adborth ag unigolyn oni bai ei fod yn gwirfoddoli i roi ei enw neu fanylion eraill sy’n datgelu pwy ydyw.

Ni fydd sylwadau ac unrhyw wybodaeth arall sy’n datgelu pwy yw unigolion ond yn cael eu cadw am gyhyd ag sy’n angenrheidiol i sicrhau ymateb priodol i sylwadau oddi wrth ddefnyddwyr. Mae Gwefan Awdurdod Heddlu Gwent yn cofnodi cyfeiriad IP y defnyddiwr, sy’n cael ei adnabod yn awtomatig gan y Gweinydd Gwe. Nid ydym yn defnyddio cwcis ar hyn o bryd ac nid ydym ychwaith yn ceisio monitro ymddygiad pori defnyddwyr unigol trwy unrhyw ddulliau cudd eraill.

Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i dudalennau gwe sydd dan reolaeth Awdurdod Heddlu Gwent, o fewn y parth www.gwent.pcc.police.uk Nid yw’r datganiad hwn yn berthnasol i ddolenni o fewn y wefan hon sy’n arwain i wefannau eraill.

Nid yw Awdurdod Heddlu Gwent yn atebol am gynnwys a dibynadwyedd unrhyw wefannau y ceir dolenni iddynt ar y wefan hon ac nid yw o anghenraid yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Ni ddylid cymryd bod rhestru’r gwefannau hyn yn gyfystyr â chefnogaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio ac nid oes rheolaeth gennym ar argaeledd y tudalennau y mae’r dolenni’n cysylltu â hwy. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y datganiad preifatrwydd hwn e-bostiwch eich cwestiwn i commissioner@gwent.pnn.police.uk neu fel arall gallwch ysgrifennu at:

Y Swyddog Diogelu Data 
Pencadlys Heddlu Gwent 
Croesyceiliog 
Cwmbrân
Gwent 
NP44 2XJ


Dolenni

Nid yw Awdurdod Heddlu Gwent yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y ceir dolenni iddynt ar y wefan hon ac nid yw o anghenraid yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Ni ddylid cymryd bod rhestru’r gwefannau hyn yn gyfystyr â chefnogaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio ac nid oes rheolaeth gennym ar argaeledd y tudalennau y mae’r dolenni’n cysylltu â hwy.