Cwcis

Ffeiliau testun bach a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n eu defnyddio yw cwcis. Gwneir defnydd helaeth ohonynt er mwyn sicrhau bod gwefannau'n gweithio, neu'n gweithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchnogion y wefan.

Ni ddefnyddir y cwcis hyn er mwyn eich adnabod chi'n bersonol, ond gallant gofio gweithgareddau a dewisiadau a wneir gennych a'ch porwr. Gallwch reoli cwcis drwy ddewis pa rai sy'n cael eu cadw neu eu dileu, os dymunwch.

Darllenwch y dudalen hon er mwyn gwybod mwy am y cwcis mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedduyn eu defnyddio.

Mae'r tabl isod yn esbonio'r cwcis rydym yn eu defnyddio a pham.

Cwcis a ddefnyddir gan Google Analytics
Enw Cynnwys Nodweddiadol Daw i Ben
...utma  rhif a gynhyrchir ar hap 2 flynedd
...utmb  rhif a gynhyrchir ar hap 30 munud
...utmc   rhif a gynhyrchir ar hap Pan fyddwch yn cau eich porwr
...utmz  rhif a gynhyrchir ar hap a gwybodaeth am sut cyrhaeddwyd y wefan (e.e. yn uniongyrchol neu drwy ddolen, chwiliad organig neu chwiliad y talwyd amdano) 6 mis

 

Er mwyn cefnogi ein gwefannau, rydym weithiau'n ymgorffori lluniau a chynnwys fideo o wefannau megis YouTube a Flickr. O ganlyniad, pan ewch i dudalen â chynnwys a ymgorfforwyd o YouTube neu Flickr er enghraifft, mae'n bosibl yr anfonir cwcis atoch o'r gwefannau hyn. Nid yw Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn rheoli lledaenu'r cwcis hyn. Dylech wirio gwefan y trydydd parti perthnasol i gael mwy o wybodaeth am y rhain. Os byddai'n well gennych beidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar bob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe wedi'u gosod i dderbyn cwcis. Os nad ydych am dderbyn cwcis, dylech newid gosodiadau eich porwr gwe i wrthod pob cwci neu i roi gwybod i chi bob tro y caiff cwci ei anfon i'ch cyfrifiadur, gan roi'r dewis i chi ei dderbyn ai peidio. Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth a chyngor ar reoli cwcis.