Cynllun Cydraddoldeb Strategol


Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent ein hail Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd.  Datblygwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 ar sail egwyddorion sylfaenol a fydd yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion.

Rydym yn dymuno:

  • Darparu gwasanaeth heddlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir;
  • Meithrin diwylliant sefydliadol sy’n dangos pwysigrwydd cydraddoldeb a chynwysoldeb
  • Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel y gall cymunedau amrywiol Gwent ei ddefnyddio’n hyderus ac ymgysylltu ag ef.

Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae amcanion y cynllun cydraddoldeb wedi eu pennu ar gyfer pob nodwedd warchodedig. Mae ein hamcanion yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda gwelliannau clir a phenodol er budd ein staff a’n cymunedau. Rydym wedi amlinellu amcanion pedair blynedd sy’n cyfochri â gwelliannau a chanlyniadau penodol fel y’u nodir yn ein Cynlluniau Cyflawni. Gan wneud hynny, ein nod yw bodloni ein gofynion cydymffurfedd cyfreithiol a chefnogi’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r egwyddorion allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throseddu y Comisiynydd.



Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd 2020 - 2024
Atodiad

Adroddiad Ymgynghori Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024
Amcanion Cydraddoldeb 2020-24 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent - Atodiad A


Adroddiad Blynyddol

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol bob blwyddyn sy'n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.