Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Yn flaenorol, rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y cyd â Heddlu Gwent. Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad o'n trefniadau llywodraethu yn 2023, penderfynwyd dychwelyd at gyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb ar wahân.
Er ein bod yn rhannu llawer o'r un ymrwymiadau â Heddlu Gwent i ymwreiddio cydraddoldeb a chynhwysiant a chroesawu amrywiaeth, mae ein swyddogaethau a chyfrifoldebau sefydliadol yn wahanol. Mae cynllun pwrpasol ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd yn ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar ein huchelgeisiau a'n hymrwymiadau ein hunain, wrth ddatblygu ymhellach effeithiolrwydd ein gwaith craffu ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Heddlu Gwent a'i ddarpariaeth.
Wrth gyhoeddi'r cynllun hwn, rydym wedi nodi tri maes allweddol y byddwn yn canolbwyntio arnynt:
- Amcan 1 – Gwella hyder ac ymddiriedaeth mewn plismona i gymunedau lleiafrifol a rhai wedi'u hymyleiddio, gan ganolbwyntio'n benodol ar hil, anabledd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
- Amcan 2 - Datblygu ein sefydliad a diwylliant gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu diwylliant cynhwysol gyda phobl wybodus ac arferion achrededig.
- Amcan 3 – Gwella ein dulliau ymgysylltu i gryfhau cydlyniant cymdeithasol a datblygu cymunedau mwy gwybodus.
Cynllun cyfartaledd strategol 2025 - 2029
Adroddiad Blynyddol
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol bob blwyddyn sy'n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.