Adroddiad Blynyddol Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg 2025/26
- Cyflwyniad
- Strategaeth y Gymraeg 2025-2028
- Cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg
- Cydymffurfiaeth â Safonau Darparu Gwasanaeth
- Cydymffurfiaeth â Safonau Llunio Polisi
- Cydymffurfiaeth â Safonau Gweithredol
- Atodiad: Diffiniadau Heddluoedd Cymru o Lefelau Sgiliau Cymraeg
Cyflwyniad
Mae'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol hwn yn canolbwyntio ar y gofynion adrodd a gynhwysir yn Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn ogystal â darparu gwybodaeth ynghylch sut rydym wedi gweithio i gyflawni'r prif addewidion yn Strategaeth y Gymraeg 2025-26 Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (y Comisiynydd) wedi ymroi i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn gallu cyrchu'r gwasanaethau a ddarperir gennym ni o ddydd i ddydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn parhau i ymgorffori'r defnydd o'r Gymraeg yn ein busnes bob dydd yn y gweithle a gyda'n cymunedau.
Mae cynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i ddinasyddion Gwent yn parhau i fod yn faes datblygu. Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid eraill i ganfod arferion gwell ac arloesol i'n cynorthwyo ni i gyflawni'r amcanion a amlinellir yn y Strategaeth a chydymffurfio â’n safonau perthnasol.
Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella'r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau yn ddwyieithog.
Strategaeth y Gymraeg
Mae Strategaeth y Gymraeg 2025-28 yn cefnogi ein hymrwymiad fel sefydliad i'r Gymraeg a chydymffurfiaeth â'r safonau perthnasol sy'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau allweddol canlynol:
- Gwella ystod y gwasanaethau Cymraeg a gynigir.
- Cynyddu nifer y siaradwr a dysgwyr Cymraeg a gyflogir.
- Defnyddio gwybodaeth a gafwyd o waith monitro ac olrhain i ganfod meysydd y mae angen eu gwella.
Wrth gyflawni mewn perthynas â'r blaenoriaethau hyn, rydym yn canolbwyntio ar ein Pobl, ein Cyhoedd a'n Diwylliant.
Pobl
Byddwn yn:
- Ceisio cynyddu nifer y siaradwr a dysgwyr Cymraeg a gyflogir.
- Sicrhau bod ein pobl yn gallu cyrchu offer ac adnoddau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a datblygu'r sgiliau hyn ymhellach.
- Darparu mwy o gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r iaith wrth ein gwaith bob dydd.
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi:
- Cynnal ein lefelau cymhwysedd Cymraeg yn llwyddiannus gydag un aelod o staff yn mynychu cwrs 'Mynediad' Cymraeg.
- Gweithio gyda Heddlu Gwent i sicrhau bod staff yn parhau i allu cyrchu offer ac adnoddau cyfieithu effeithiol, gan gynnwys canllawiau ar y fewnrwyd a rennir 'Y Bit / The Beat', fel negeseuon allan o'r swyddfa, templedi llofnod e-bost, a theitlau swyddi Cymraeg, a gwybodaeth am ddysgu Cymraeg.
- Parhau i elwa ar rannu Cyfieithydd y Gymraeg a Rheolwr Polisi Strategol y Gymraeg, y mae'r ddwy ohonynt yn gweithio yn Heddlu Gwent ac yn darparu cymorth ychwanegol i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) i gynnal a gwella ein darpariaeth o wasanaethau Cymraeg.
- Cymryd rhan mewn cynadleddau a gweithdai a gynhaliwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i wella defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
- Annog staff i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg wrth ryngweithio bob dydd, fel dweud 'Shwmae' wrth gydweithwyr, a chynnwys cyfarchion Cymraeg mewn negeseuon e-bost.
Cyhoedd
Byddwn yn:
- Gwella ansawdd y gwasanaethau Cymraeg a gynigir.
- Trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal o ran dewis a darpariaeth iaith.
- Cynyddu cyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r iaith wrth ddefnyddio / ymgysylltu â'r gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa'r Comisiynydd.
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi:
- Dechrau datblygu cyfleoedd Dysgu Cymraeg pwrpasol ar gyfer y tîm a'n gwaith er mwyn rhoi cymorth i staff ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
- Parhau i ymgysylltu'n gyhoeddus trwy ein presenoldeb cyfrwng Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan, sy'n cyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth sefydliadol ac erthyglau newydd yn Gymraeg.
- Parhau i ymgysylltu â'n cymunedau sy'n siarad Cymraeg i lywio ein penderfyniadau, gan gynnwys trwy brosesau arolygu ac ymgynghori cyhoeddus ar gyfer praesept y Dreth Gyngor ar gyfer plismona a Chynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder ar gyfer Gwent. Cynhaliwyd digwyddiadau wyneb yn wyneb ar draws pob ardal cyngor, ynghyd ag arolwg ar-lein dwyieithog. Cafodd dolen i'r fersiwn Gymraeg ei hyrwyddo trwy gyfrwng y rhwydweithiau Cymraeg yng Ngwent ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Cawsom 1,185 o ymatebion i'r arolwg Praesept. Fodd bynnag, yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol, ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion Cymraeg.
- Rydym wedi parhau i ddarparu'r fersiwn Gymraeg o'n e-fwletin i bobl sy'n tanysgrifio ac wedi cynnal ein presenoldeb Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol (mae rhagor o wybodaeth am ymgysylltu o dan gam gweithredu 4).
Diwylliant
Byddwn yn:
- Defnyddio gwybodaeth a gafwyd o waith monitro ac olrhain i ganfod meysydd y mae angen eu gwella
- Rhoi sylw i ddiwylliant ac agweddau mewnol tuag at y Gymraeg.
- Rhoi sylw i ddiwylliant ac agweddau allanol tuag at y Gymraeg.
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi:
- Cynnal ein hasesiad blynyddol yn erbyn y safonau perthnasol i ganfod unrhyw newidiadau a chyfleoedd i ddatblygu ymhellach. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu proses hapsamplu ar gyfer ein gwefan i wirio swyddogaeth y Gymraeg a chydymffurfiaeth â'r safonau perthnasol.
- Cwblhau a dychwelyd hunanasesiad penodol o gydymffurfiaeth yn erbyn y safonau gofynnol gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn rhan o'i gwiriadau cydymffurfio a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn, a bydd mwy o ymgysylltu'n digwydd yn y man.
- Parhau i annog a chefnogi staff i ymgysylltu â'r Rhwydwaith Siaradwyr a Dysgwyr Cymraeg, a gweithgareddau cymdeithasol fel sesiynau Coffi a Chlonc i feithrin chwilfrydedd a datblygu hyder yn yr iaith.
- Gweithio gyda Heddlu Gwent i sicrhau bod defnydd o'r Gymraeg yn cael ei ystyried a'i hyrwyddo ble bynnag y bo'n bosibl, gan gynnwys mewn digwyddiadau mewnol.
- Casglu data a gwybodaeth i ganfod a llywio meysydd a chyfleoedd i wella'r sefydliad, y mae rhai ohonynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn.
Cydymffurfiaeth a safonau'r gymraeg
Mae'r adrannau canlynol yn darparu gwybodaeth am Safonau penodol y mae gofyn i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Trwy wneud hyn, rydym yn dangos sut mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cydymffurfio â'r Safonau ar ran y Comisiynydd.
3.1 Cwynion yn ymwneud â gwasanaethau Cymraeg
Yn ystod cyfnod yr adroddiad, derbyniodd Swyddfa'r Comisiynydd un gŵyn am y defnydd o'r Gymraeg mewn digwyddiad mewnol. Er nad oedd Swyddfa'r Comisiynydd yn gyfrifol am y digwyddiad, gwnaethom weithio gyda Heddlu Gwent (y trefnydd) i sicrhau bod y mater yn cael ei adolygu ac y byddai camau priodol yn cael eu cymryd i roi sylw i hyn mewn digwyddiadau yn y dyfodol.
Yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus â'n cymunedau, rydym yn annog y cyhoedd i ddweud wrthym os ydynt yn meddwl nad ydym yn bodloni ein rhwymedigaethau mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn ein helpu ni i wella ein darpariaeth gwasanaeth ac i gyfathrebu'n effeithiol gyda'n cymunedau. Gellir cysylltu â ni ar y ffôn, drwy e-bost, wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau neu gyfarfodydd cyhoeddus, ar ein gwefan neu ar gyfryngau cymdeithasol. Rhoddir manylion pellach ar ddiwedd y ddogfen hon.
Cyhoeddir ein gweithdrefn ar gyfer cwyno am ein cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg ar ein gwefan - Gweithdrefn Cwynion yn ymwneud â chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg |Swyddfa comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk), ynghyd â'r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb sy'n cyd-fynd â'r weithdrefn ac sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.
3.2 Swyddi a hysbysebwyd yn 2025/26
Hysbysebwyd dwy swydd gan Swyddfa'r Comisiynydd yn ystod cyfnod yr adroddiad. Mae pob swydd yn Swyddfa'r Comisiynydd yn gofyn am Gymraeg Lefel 1 fel isafswm, a darperir hyfforddiant gorfodol yn ystod hyfforddiant sefydlu staff. Mae hwn yn ofyniad ar gyfer proses recriwtio'r Prif Gwnstabl hefyd, yr ydym ni'n gyfrifol amdani.
Mae prosesau recriwtio yn ystyried defnyddio gweithredu cadarnhaol a hysbysebu wedi'i dargedu er mwyn denu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg. Mae ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gweithio gyda Rheolwr Polisi Strategol y Gymraeg i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i dargedu ein cymunedau Cymraeg a chodi ymwybyddiaeth o swyddi gwag.
3.3 Hyfforddiant
Hyfforddiant yn y Gymraeg
Mae Heddlu Gwent a Swyddfa'r Comisiynydd yn darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a Sgiliau Cymraeg Lefel 1 i bob cyflogai fel cwrs gorfodol.
Mae pob aelod o staff wedi derbyn y sesiwn hyfforddiant gorfodol yn awr. Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a Sgiliau Lefel 1 yn cael ei gynnwys yn y rhaglen hyfforddiant sefydlu ar gyfer pob aelod newydd o staff. Mae pecyn diweddaru e-ddysgu ar gael hefyd ar gyfer pob swyddog ac aelod o staff.
Mae cyfleoedd ar gael i gyflogeion ddysgu Cymraeg er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg presennol. Yn ystod y flwyddyn, penododd Heddlu Gwent diwtor Dysgu Cymraeg i ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu i swyddogion a staff. Fel y nodwyd eisoes, bydd Swyddfa'r Comisiynydd yn elwa ar y penodiad hwn hefyd ac mae wedi dechrau asesu uwchsgilio staff i gyd-fynd ag anghenion busnes.
Mae gwybodaeth am adnoddau dysgu Cymraeg eraill ar gael i staff ar fewnrwyd Heddlu Gwent Y Bît / The Beat.
3.4 Sgiliau Cymraeg Cyflogeion
Mae'r siart canlynol yn dangos lefel y sgiliau Cymraeg yn Swyddfa'r Comisiynydd fel y cofnodwyd yn ystod cyfnod yr adroddiad:
- Mae gan 21 aelod o staff sgiliau Cymraeg Lefel 1;
- Mae gan un aelod o staff sgiliau Cymraeg Lefel 2;
- Mae gan un aelod o staff sgiliau Cymraeg Lefel 4.
Rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal lefel sylfaenol y sgiliau Cymraeg sydd ar gael ar draws y sefydliad a byddwn yn parhau i annog a chefnogi staff i ddatblygu eu gallu a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddwn hefyd yn parhau i ganfod cyfleoedd ychwanegol i ddatblygu Cymraeg ein staff y tu allan i'r amgylchedd dysgu ffurfiol.
3.5. Monitro a Goruchwylio Cydymffurfiaeth â'r Safonau
Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr yw monitro a goruchwylio cydymffurfiaeth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd â Safonau'r Gymraeg. Mae craffu mewnol yn digwydd yng nghyfarfodydd Bwrdd Rheoli Strategol Swyddfa'r Comisiynydd er mwyn i'r Comisiynydd allu goruchwylio cydymffurfiaeth a rhoi sylw i unrhyw broblemau.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd yn cynnal Asesiad Cydymffurfiaeth y Gymraeg seiliedig ar risg ac mae'n cynnal archwiliad blynyddol i adolygu cydymffurfiaeth gyda'r safonau perthnasol. Rydym yn parhau i gydnabod heriau o ran ein gallu i ddarparu gwasanaeth ffôn gwirioneddol ddwyieithog. Mae Heddlu Gwent yn darparu cymorth i'n galluogi ni i ymateb i unrhyw alwadau Cymraeg. Rydym yn parhau i weithio i ganfod atebion addas a chynaliadwy ar gyfer ein darpariaeth gwasanaeth yn hyn o beth.
Mae'n ddyletswydd ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i fonitro a chraffu ar gydymffurfiaeth Heddlu Gwent â Safonau'r Gymraeg, a orfodir ar y Prif Gwnstabl, hefyd. Mae staff Swyddfa'r Comisiynydd yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Gymraeg Heddlu Gwent a'r Bwrdd Strategaeth Pobl i gefnogi'r Comisiynydd i gyflawni'r ddyletswydd hon.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Atebolrwydd a Sicrwydd y Comisiynydd yn derbyn adroddiadau blynyddol ynghylch cydymffurfiaeth Heddlu Gwent â Safonau'r Gymraeg. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan yn rhan o'n trefniadau llywodraethu. Mae Panel yr Heddlu a Throsedd Gwent yn derbyn adroddiad Swyddfa'r Comisiynydd er mwyn rhoi sicrwydd iddo ein bod yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, ac mae'n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag unrhyw arfer da a nodir neu heriau sy'n dod i'r amlwg wrth i ni barhau i wella'r ddarpariaeth o wasanaeth dwyieithog i ddinasyddion Gwent.
Cydymffurfiaeth a safonau darparu gwasanaeth
Mae'r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ein cydymffurfiaeth â'r Safonau Darparu Gwasanaeth y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion, fel y dangosir yn yr adran hon.
- Cyfathrebu â'r Cyhoedd
Mae canllawiau ar gyfer staff wedi cael eu cyhoeddi ar fewnrwyd Heddlu Gwent 'Y Bît’, y mae gan staff Swyddfa'r Comisiynydd fynediad iddi hefyd. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio gofynion y Safonau Darparu Gwasanaeth ar gyfer y ddau sefydliad yn glir ac yn syml. - Gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
Mae ein gwefan yn cynnwys rhagdudalen i annog siaradwyr Cymraeg i ddewis iaith cyn mynd at dudalennau eraill y wefan. Rydym wedi gwella ein presenoldeb cyfrwng Cymraeg ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd er mwyn ymgysylltu â chymunedau'n well.
Ers mis Mehefin 2020, mae Swyddfa'r Comisiynydd wedi lansio cyfrif Facebook Cymraeg ar wahân Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent | Facebook i sicrhau bod dilynwyr yn gallu gweld cynnwys wedi ei gyhoeddi yn eu dewis iaith Rydym wedi parhau i hyrwyddo ein gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a gwelsom nifer cyson o ddilynwyr o gymharu â'r llynedd.
Rydym yn parhau i ddosbarthu ein e-fwletin wythnosol, sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y sawl sy'n tanysgrifio. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cynnal nifer y tanysgrifwyr yma hefyd.
Rydym yn parhau i ddarparu'r e-fwletin ar gyfer ein holl gymunedau fel ffordd rwydd o rannu'r newyddion diweddaraf am ein gwaith - mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan ar E-fwletin | Comisynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk).
Er bod hyn yn gadarnhaol, mae nifer y dilynwyr a thanysgrifwyr yn isel o hyd, a byddwn yn gwneud mwy o ymchwil i ganfod ffyrdd i ddenu mwy o ddilynwyr yn 2026/27 i sicrhau bod preswylwyr sydd am ymgysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael y cyfle i wneud hynny. - Grantiau
Darperir pob gwybodaeth a gyhoeddir am gyfleoedd am gyllid yn Gymraeg a Saesneg. Os derbynnir cais yn Gymraeg, byddwn yn gohebu gyda'r ymgeisydd yn Gymraeg ac yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewn unrhyw gyfarfodydd perthnasol.
Yn ystod blwyddyn yr adroddiad hwn, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am gyllid yn Gymraeg. Yn unol â Strategaeth y Gymraeg, byddwn yn parhau i adolygu ein cyfleoedd cyllid er mwyn gwneud pobl yn ymwybodol ein bod yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. - Caffael
Nid oes unrhyw geisiadau neu gontractau wedi cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac ni dderbyniwyd unrhyw rai yn Gymraeg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.
O ran contractau perthnasol (lle mae'r testun yn awgrymu y dylent fod yn Gymraeg) mae dogfennau tendro yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Mae'r ddogfen tendro yn nodi "Mae'r Comisiynydd yn croesawu ymatebion tendro yn Gymraeg" ac mae Rhestr Wirio'r Gymraeg wedi cael ei hymgorffori yn y broses dendro i sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei dalu i'r Gymraeg yn ystod pob cam.
Mae mynediad at wasanaethau cyfieithu proffesiynol yn sicrhau bod cynnwys cyflwyniadau yn y Gymraeg yn cael ei adlewyrchu'n gywir, a bydd y broses werthuso’n rhedeg yn gyfochrog â’r broses werthuso ar gyfer cyflwyniadau yn Saesneg (os yn berthnasol). Bydd yr un dyddiad cau yn berthnasol i gyflwyniadau yn Gymraeg a Saesneg a bydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn cael eu cynnig a'u trefnu ar gyfer contractau perthnasol os bydd sefydliad yn dymuno cael cyfweliad yn Gymraeg.
Hysbysebir pob tendr yn Gymraeg a Saesneg.
Cydymffurfiaeth a safonau llunio polisi
Rydym wedi bodloni ein Safonau Llunio Polisi trwy ddefnyddio ein proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i ganfod a rhoi sylw i unrhyw effeithiau ar y Gymraeg. Mae Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb yn rhan orfodol o'n gweithdrefn llunio polisi ac maent yn arwain ein llunwyr polisi a'n pobl sy’n gwneud penderfyniadau drwy'r broses o ystyried effeithiau negyddol neu gadarnhaol ar bobl sy’n rhannu Nodweddion Gwarchodedig fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Er nad yw'r Gymraeg yn Nodwedd Warchodedig dan Adran 4 Deddf Cydraddoldeb 2010, mae ein templed Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb presennol yn cynnwys nifer o gwestiynau penodol sy'n golygu y bydd unrhyw effaith ar y ffordd rydym yn trin y Gymraeg mewn perthynas â'r Saesneg, neu gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, yn cael eu nodi. Mae pob polisi newydd, ac adolygiadau o bolisïau presennol yn destun Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ac mae cymorth ar gael gan Reolwr Polisi Strategol y Gymraeg i unrhyw gydweithiwr sy'n cwblhau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb.
Er nad yw'r Safonau’n ei gwneud yn ofynnol ein bod yn cynnal asesiad yn y modd hwn, mae defnyddio ein proses Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn darparu dull effeithlon a chynhwysfawr o asesu effaith ein gweithgareddau mewn perthynas â’r Gymraeg.
Rydym wedi cyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau sy'n amlinellu sut byddwn yn ystyried y Gymraeg yn ein penderfyniadau cyllido. Mae hwn ar gael ar ein gwefan: Polisi a Gweithdrefn Arian Grant | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk).
Cydymffurfiaeth a safonau gweithredol
Mae'r adran ganlynol yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ein cydymffurfiaeth â'r Safonau Gweithredol y mae'n ofynnol i'r Comisiynydd adrodd mewn perthynas â nhw. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cydymffurfio â phob un o'r gofynion fel y dangosir yn yr adran hon.
- Cymorth i Staff
Cyhoeddir canllawiau Safonau'r Gymraeg cynhwysfawr i staff ar fewnrwyd Heddlu Gwent ‘Y Bît’ ar y dudalen ‘Cymraeg’, y mae gan ein staff ni fynediad iddi hefyd. Mae'r dudalen yn cynnwys cymorth ac adnoddau i staff sydd am ymarfer eu sgiliau Cymraeg neu sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant hefyd.
Darperir templedi Cymraeg ar gyfer ymatebion allan o'r swyddfa a llofnodion personol, ynghyd â bathodynnau rhithwir y gall cyflogeion eu hychwanegu at eu negeseuon e-bost i ddangos eu bod naill ai'n dysgu neu'n siarad Cymraeg. Mae pob siaradwr a dysgwr Cymraeg hysbys ar draws yr heddlu wedi cael bathodyn neu laniard priodol i'w wisgo. - Swyddi Cymraeg
Mae pob hysbyseb swydd yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol fel mater o drefn, oni bai bod swydd yn cael ei hasesu i fod yn un lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd ati i gael y sgiliau perthnasol. Bydd y Tîm Recriwtio yn Adran Gwasanaethau Pobl Heddlu Gwent yn rhoi cymorth i asesu newidiadau i ofynion iaith.
Yn allanol, caiff swyddi eu hysbysebu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg a chyhoeddir fersiynau Cymraeg o wybodaeth yn ymwneud â'r swydd honno, yn ogystal â ffurflenni cais. Mae pob cais am swydd newydd yn gofyn i ymgeiswyr nodi lefel eu gallu yn y Gymraeg a, lle y bo angen, a hoffent gwblhau'r broses recriwtio yn Gymraeg. - Arwyddion
Mae pob arwydd newydd neu arwydd sy'n cael ei gyfnewid yn cael ei gynhyrchu'n ddwyieithog ar draws ystâd yr heddlu gyda'r Gymraeg mewn safle lle y mae'n debygol o gael ei darllen gyntaf. - Cyrsiau hyfforddiant a ddarparwyd yn Gymraeg
Nid yw staff Swyddfa'r Comisiynydd wedi gwneud unrhyw gais i dderbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.
Atodiad a: Diffiniadau sgiliau cymraeg
Diffiniadau Lluoedd Heddlu Cymru o Lefelau Sgiliau Cymraeg (sgiliau llafar yn unig):
Lefel 1
Gallu dweud enwau lleoedd, enwau personol, gallu cyfarch yn briodol yn bersonol neu ar y ffon, gallu dechrau a therfynu cyfarfodydd yn ddwyieithog.
Lefel 2
Gallu deall hanfod sgwrs a chyfleu gwybodaeth syml, gallu ymateb i geisiadau syml, gallu deall ceisiadau am gymorth, gallu defnyddio Cymraeg i drosglwyddo galwadau ffôn, gallu cyflwyno ei hun ac eraill.
Lefel 3
Gallu cymryd a throsglwyddo negeseuon sy'n debygol o fod angen sylw yn ystod diwrnod gwaith, gallu sgwrsio'n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaethau ac i roi gwybodaeth fanwl, gallu disgrifio pobl a lleoliadau, gallu ymateb i ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, gallu cymryd manylion neu nodiadau o wrando ar sgwrs Gymraeg.
Lefel 4
Gallu cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd o fewn ei faes gwaith ei hun, gallu dadlau achos o blaid neu yn erbyn syniad, gallu sgwrsio yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at y Saesneg wrth ddefnyddio terminoleg plismona neu dechnegol, gallu ymdrin ag ymholiadau'n effeithiol, gallu deall gwahanol dafodieithoedd, gallu cadeirio cyfarfod ac ymateb i gwestiynau yn Gymraeg, gallu disgrifio sefyllfa neu ddigwyddiad yn Gymraeg.
Lefel 5
Gallu cyfweld ag ymgeiswyr am swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg ac asesu eu haddasrwydd, gallu ymdrin yn effeithiol ag ymholiadau cymhleth neu ymdrin â gwrthdaro yn Gymraeg, gallu cyfweld neu holi yn ystod ymchwiliad, gallu ymdrin ag ymholiadau cymhleth neu sensitif, cwynion a chwestiynau ymosodol yn ei faes arbenigol ei hun, gallu gwneud cyflwyniadau yn Gymraeg.