Gwneud Cais

I wneud cais dilys dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:

  • rhaid cynnwys enw llawn y sawl sy'n gwneud cais;
  • rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig, naill ai mewn llythyr neu e-bost;
  • rhaid i'r cais gynnwys cyfeiriad fel y gallwn anfon ymateb atoch (gall hwn fod yn gyfeiriad e-bost);
  • rhaid i'r cais ddangos yn glir pa wybodaeth rydych yn gofyn amdani;
  • rhaid i'r cais fod yn ddarllenadwy; a
  • rhaid i chi nodi sut hoffech i'r wybodaeth gael ei hanfon atoch (e.e. copi caled, e-bost).

Dylid anfon ceisiadau fel a ganlyn:

E-bost:
Commissioner@gwent.pnn.police.uk

Trwy'r post:
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
Pencadlys yr Heddlu
Heol Tyrpeg
Croesyceiliog
Cwmbrân
NP44 2XJ

Rydym yn croesawu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn golygu oedi wrth ymateb. Sylwer na fydd unrhyw wybodaeth ategol sy'n rhan o'n hymateb i chi yn cael ei darparu yn Gymraeg oni bai ei bod ar gael yn barod. Bydd ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno.

Faint o amser fydd hi’n ei gymryd i gael ymateb?

Pan fyddwn yn derbyn cais Rhyddid Gwybodaeth dilys, mae dyletswydd gyfreithlon arnom i ymateb i'r ymgeisydd o fewn 20 diwrnod gwaith, er bod rhai amgylchiadau pan ellir estyn y cyfnod hwn.

Yn achlysurol, er enghraifft os oes angen esboniad ar gais, os yw cais yn arbennig o gymhleth neu'n destun eithriadau penodol lle mae angen ystyried ffactorau budd y cyhoedd, gellir estyn y cyfnod 20 diwrnod gwaith hwn.

Os oes angen esboniad, bydd y cyfnod o 20 diwrnod gwaith yn cael ei oedi nes byddwn wedi derbyn esboniad gan yr ymgeisydd. Os na dderbynnir unrhyw esboniad o fewn 20 diwrnod gwaith bydd y cais yn cael ei gau.

Uchafswm Costau Statudol

Uchafswm y costau ar gyfer ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yw £450 neu werth 18 awr o waith. Lle yr amcangyfrifir y bydd y cais am wybodaeth yn debygol o fod yn fwy/hwy na’r uchafswm hwn, bydd y cais yn cael ei wrthod a bydd hysbysiad gwrthod yn cael ei gyflwyno.

Cyn cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth, efallai yr hoffech gyfeirio at ein cofnod datgelu i benderfynu a yw'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani wedi cael ei darparu o'r blaen.

Gwybodaeth yn ymwneud â Heddlu Gwent

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent yn ddau sefydliad ar wahân. Os oes angen gwybodaeth arnoch chi sy'n cael ei chadw gan Heddlu Gwent cyflwynwch eich cais i foi@gwent.pnn.police.uk

Os bydd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn derbyn cais am wybodaeth sy’n cael ei chadw gan Heddlu Gwent, bydd yr ymgeisydd yn derbyn hysbysiad nad ydym yn cadw'r wybodaeth y mae wedi gofyn amdani ac yn awgrymu ei fod yn cysylltu â’r Llu er mwyn iddo ymateb i’r cais.