Eich hawl i fynediad

Mae Erthygl 15 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawl i unigolion weld y data personol sydd gan sefydliadau amdanynt, yn amodol ar rai eithriadau. Gelwir ceisiadau am fynediad at ddata personol yn Geisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun.

Os byddwch yn cyflwyno cais o’r fath a bod gennym wybodaeth amdanoch, yn ogystal â chopi o'r data personol a gedwir gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent amdanoch, mae gennych hefyd yr hawl i gael yr wybodaeth ganlynol:

  • y diben ar gyfer prosesu’r data;
  • y categorïau o ddata personol dan sylw;
  • y derbynwyr neu'r categorïau o dderbynwyr y bydd y data personol yn cael eu datgelu iddynt;
  • y cyfnod y cedwir y data personol neu, os nad yw hyn yn bosibl, y meini prawf ar gyfer penderfynu pa mor hir y bydd data yn cael eu cadw;
  • bodolaeth yr hawl i ofyn am gywiro, dileu neu gyfyngu neu wrthwynebu prosesu o'r fath;
  • yr hawl i gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth;
  • ffynhonnell y data, pan na chafwyd y data yn uniongyrchol gan yr unigolyn;
  • bodolaeth trefn gwneud penderfyniadau yn awtomatig (gan gynnwys proffilio); ac
  • y mesurau diogelu a ddarperir os caiff y data personol eu trosglwyddo i drydedd wlad neu sefydliad rhyngwladol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y pwyntiau uchod yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Ceir gwneud cais ar lafar neu'n ysgrifenedig a bydd am ddim oni ystyrir bod eich cais yn ormodol neu'n ailadroddus neu os ystyrir ei fod yn amlwg yn ddi-sail. 

Os ydym o'r farn bod un o'r uchod yn wir, efallai y byddwn yn gofyn am ffi resymol neu'n gwrthod prosesu eich cais. Os codir ffi, bydd wedi’i seilio ar gost weinyddol darparu'r wybodaeth i chi.

Mae'n rhaid i ni roi eich gwybodaeth i chi o fewn mis i dderbyn eich cais mynediad at ddata gan y testun, ond gallwn ymestyn hwn am ddau fis arall os yw eich cais yn gymhleth. Os bydd oedi wrth ymdrin â'ch cais byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn mis i dderbyn eich cais ac yn esbonio pam mae angen yr estyniad.

Mae’n bosibl hefyd y bydd yn ofynnol i ni ofyn i chi am ddogfennau i brofi pwy ydych chi. Os oes angen hyn, bydd y cyfnod ymateb o un mis yn dechrau o'r dyddiad y ceir cadarnhad o bwy ydych chi.

Os byddwn yn gwrthod prosesu eich cais byddwn yn egluro pam ac yn rhoi gwybod i chi am eich hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn mis i dderbyn eich cais

Os yw eich cais am wybodaeth heblaw am wybodaeth amdanoch chi, er enghraifft gwybodaeth am benderfyniadau neu gamau a gymerwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ni chewch ei gyflwyno fel cais mynediad at ddata gan y testun ond fel cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar ein tudalennau Rhyddid Gwybodaeth.