Apeliadau a Chwynion

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd y cafodd eich cais gwrthrych am wybodaeth ei drin, fe'ch anogir i gysylltu â'r Swyddog Llywodraethu yn gyntaf, er mwyn penderfynu a ellir datrys eich pryderon yn answyddogol, gan roi cymaint o fanylion â phosibl i ni ynghylch pam rydych yn credu na chafodd eich cais ei drin yn unol â chyfraith Diogelu Data. 

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl cysylltu â'r Swyddog Llywodraethu, gallwch ofyn am adolygiad mewnol ffurfiol o'r ffordd y cafodd eich cais ei drin.  Dylid cyflwyno ceisiadau am adolygiad mewnol yn brydlon, ac o fewn un mis i’n hymateb i'ch cais.

Bydd yr adolygiad mewnol yn cael ei gynnal gan y Prif Weithredwr, a byddwch yn derbyn canlyniad yr adolygiad o fewn un mis. Os yw'r Prif Weithredwr yn penderfynu y dylid rhoi gwybodaeth i chi, bydd y wybodaeth yn cael ei darparu cyn gynted â'i bod yn ymarferol bosibl.

I gyflwyno eich apêl, cysylltwch â ni trwy gyfrwng e-bost, y post neu ar y ffôn.

Os ydych yn anfodlon ar ganlyniad yr adolygiad mewnol, gallwch gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth neu geisio gorfodi'r hawl hon drwy unioni barnwrol.

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y cyfeiriad canlynol:

Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Neu ar 0303 123 1113

Mae gwybodaeth bellach am eich hawliau dan Ddeddf Diogelu Data ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.