Wythnos Ryngwladol Ystafelloedd Rheoli

23ain Hydref 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol gwaith caled ac ymroddiad staff ystafell reoli’r llu Heddlu Gwent.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Yr wythnos hon rydym yn cymryd amser i gydnabod arwyr tawel Heddlu Gwent, tîm yr ystafell reoli. Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad i bobl Gwent yn fwy amlwg nag erioed.

“Mae'r tîm yn ymdrin â miloedd o alwadau, e-byst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol 365 diwrnod y flwyddyn ac, ers dechrau pandemig Covid-19, mae'r galw am eu gwasanaethau wedi bod yn eithriadol o uchel.


“Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu gwaith caled, ac am fynd yr ail filltir bob dydd i helpu i amddiffyn a thawelu meddwl pobl Gwent.”