Dydd y Cofio
Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi coffáu Dydd y Cofio mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled Gwent.
Dywedodd: "Yr wythnos hon, fe wnaethom ymuno fel cymunedau ledled Gwent i gofio'r aberth eithaf a wnaed gan gynifer o ddynion a menywod wrth wasanaethu ein gwlad. Buon nhw farw er mwyn i ni fod yn rhydd. Rydym yn diolch i chi, ac ni fyddwn byth yn anghofio.
"Yn ogystal â chofio'r rhai a fu farw, fe wnaethom hefyd dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Ni fydd y rhan fwyaf ohonom byth yn gwybod yr erchyllterau a'r caledi y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu yn rhinwedd eu rôl. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y nifer fawr o aberthau y maen nhw wedi'u gwneud i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
"Yr hyn a fy nharodd i fwyaf yn ystod y digwyddiadau hyn, oedd yr ymdeimlad o undod a chydlyniant rhwng pobl o wahanol oedrannau, ethnigrwydd a chefndiroedd a oedd wedi dod ynghyd i gofio. Mae'n ein hatgoffa ni i gyd o'n dynoliaeth gyffredin a'n profiad cyffredin, a'r ffaith ein bod ni wir yn gryfach pan fyddwn yn sefyll gyda'n gilydd."