Swyddogion newydd yn ymuno â rhengoedd Heddlu Gwent

22ain Gorffennaf 2021

Mae'n bleser gen i groesawu'r 40 swyddog heddlu newydd sydd wedi dechrau ar eu hyfforddiant gyda Heddlu Gwent y mis hwn, a'r 17 swyddog cymorth cymunedol newydd sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant ac sy'n gwasanaethu ein cymunedau yn awr.

Unwaith y bydd y swyddogion heddlu newydd hyn wedi cwblhau eu hyfforddiant mewn rhyw wyth wythnos byddant yn ymuno â thimau plismona ledled Gwent.

Mae'r swyddogion cymorth cymunedol eisoes yn gweithio yn ein cymunedau. Swyddogion Cymorth Cymunedol yw'r ddolen rhwng yr heddlu a'n cymunedau, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu cymunedau mwy cydlynus ledled Gwent. Nid yw'n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Mae'r penderfyniad i ddilyn gyrfa ar reng flaen plismona yn un dewr, yn arbennig ar ôl y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi bod yn fwy heriol nac erioed i luoedd heddlu.

Maent yn ychwanegiad y mae angen taer amdano ar adeg dyngedfennol a dymunaf bob hwyl iddynt yn eu gyrfa.