Plannu coeden i goffáu Diwrnod Stephen Lawrence

26ain Ebrill 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi ymuno â swyddogion, staff a chynrychiolwyr y gymuned i nodi Diwrnod Stephen Lawrence am y tro cyntaf.

22 Ebrill yw Diwrnod Stephen Lawrence ac mae'n coffáu'r gŵr ifanc o dde ddwyrain Llundain a gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad ar sail hil ym 1993.

Arweiniodd Adroddiad Macpherson, adolygiad o’r ffordd y cafodd yr achos ei drin gan yr heddlu, at newidiadau mawr mewn plismona yn y DU.

Dywedodd y Comisiynydd, Jeff Cuthbert: “Roedd Stephen Lawrence yn ŵr ifanc diniwed a chafodd ei farwolaeth giaidd ar 22 Ebrill 1993 effaith ysgytiol ar draws y byd. Newidiodd cysylltiadau hiliol yn y DU am byth y diwrnod hwnnw.

“Diolch i'r drefn, mae plismona wedi symud ymlaen llawer ers hynny. Rwy'n falch ein bod yn cymryd camau difrifol yma yng Ngwent i feithrin cydlyniant cymunedol, ac i sicrhau bod ein swyddogion a staff heddlu yn wir yn cynrychioli'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.