Myfyrwyr yr heddlu'n graddio

14eg Gorffennaf 2022

Yr wythnos hon mae 55 o swyddogion newydd Heddlu Gwent wedi ennill gradd  Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona.

Mae'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio ar gyfer cymhwyster academaidd, gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wrth iddynt gyflawni eu hyfforddiant heddlu.

Mae hyn yn galluogi swyddogion heddlu i godi eu safonau proffesiynol yn wyneb natur newidiol trosedd ac yn caniatáu i recriwtiaid ddysgu wrth ennill cyflog.  

Mae'r swyddogion hyn wedi gwneud yn arbennig o dda. 'Dyw astudio ar gyfer gradd academaidd wrth fynd trwy'r hyfforddiant ymarferol y mae'n rhaid i swyddogion heddlu ei dderbyn ddim yn hawdd. Hoffwn longyfarch pob un ohonyn nhw ar eu llwyddiant a dymuno pob hwyl iddyn nhw yn y dyfodol.