Heddlu Gwent yn parhau i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig

9fed Mehefin 2020

Mae Heddlu Gwent wedi bod yn cynnal cyrchoedd plygeiniol yng Nghasnewydd. Cymerodd dros 70 o swyddogion arbenigol ran yn yr ymgyrch i dargedu'r troseddau mwyaf difrifol a threfnedig yng Ngwent. Roedd y cyrchoedd yn rhan o Ymgyrch Jig-so.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert:

“Yr wythnos hon roeddwn yn falch i weld bod Heddlu Gwent yn parhau i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Er gwaethaf heriau Covid19, rwyf yn dawel fy meddwl bod Heddlu Gwent yn parhau i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Cynhaliwyd 17 cyrch yng Nghasnewydd yr wythnos hon ac arestiwyd 15 o bobl ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A fel rhan o Ymgyrch Jig-so.

Rwyf yn falch bod swyddogion yn parhau i amddiffyn ein cymunedau rhag y troseddau mwyaf difrifol a niweidiol sy'n cael effaith mor negyddol ar gymaint o fywydau.

Mae gwybodaeth gan gymunedau'n hollbwysig yn y frwydr yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig. I hysbysu am gyflenwi neu ddefnyddio cyffuriau'n anghyfreithlon, ni waeth faint o fanylion sydd gennych chi, ffoniwch 101, anfonwch neges uniongyrchol at dudalennau cyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.