Gwrando ar fusnesau yn Abertyleri

6ed Mai 2022

Yr wythnos hon ymwelais ag Abertyleri i siarad â thrigolion a pherchnogion busnes am ddiogelwch cymunedol.

Mae cadw cymunedau'n ddiogel yn flaenoriaeth yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ac wedi'i ymwreiddio drwy gydol gwaith fy swyddfa.

Roeddwn yn falch o glywed bod yr ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a welwyd cyn y pandemig wedi gostwng.

Fodd bynnag, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dal i’w weld. Soniodd perchnogion busnes am y diffyg parch at y dref gan bobl ifanc, gyda grwpiau o bobl ifanc yn ymgynnull ac yn achosi niwsans.

Wrth i'r nosweithiau ymestyn, mae ond yn naturiol y bydd pobl ifanc yn dymuno cymdeithasu, ac rwyf wedi fy sicrhau y bydd Heddlu Gwent yn cynyddu eu presenoldeb mewn trefi fel Abertyleri i atal unrhyw ymddygiad negyddol. Roeddwn i hefyd yn falch o glywed bod gwasanaeth ieuenctid y cyngor wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc gyda'r nos.

Mae taflu sbwriel yn broblem enfawr sy'n peri rhwystredigaeth i berchnogion busnes a thrigolion. Bydd Heddlu Gwent yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a'r gwasanaeth ieuenctid i gynnal sesiwn casglu sbwriel gyda'r gymuned er mwyn annog pobl i gymryd perchnogaeth a pharchu eu hamgylchedd.