Gwobrau hirwasanaeth Heddlu Gwent

15fed Mehefin 2022

Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent sydd wedi gwasanaethu am bron i chwarter canrif wedi cael eu cydnabod mewn seremoni arbennig.

Mae'r gwobrau hirwasanaeth yn dathlu swyddogion a staff heddlu sydd wedi gwasanaethu yn y llu am dros 20 mlynedd.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas : "Mae'n fraint cael bod yn bresennol yn y seremoni hirwasanaeth ac ymddygiad da i gydnabod ymdrechion gwych swyddogion a staff.

"Mae ugain mlynedd o wasanaeth yn garreg filltir go iawn a diolch i’w gwaith caled, eu hymroddiad a’u hymrwymiad, mae Gwent ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio a chynnal busnes ynddo yn y Deyrnas Unedig.”