Dathlu’r Jiwbilî

9fed Mehefin 2022

Roeddwn wrth fy modd i allu cyfrannu rhywfaint o gyllid i nifer o sefydliadau yn y gymuned allu cynnal digwyddiadau a ddaeth a phobl at ei gilydd ar gyfer y Jiwbilî yr wythnos ddiwethaf.

Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i feithrin cydlyniant mewn cymunedau ac roedd yn dda gweld pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu.

Un o’r grwpiau hyn oedd Special Movers, o Rasau ym Mlaenau Gwent. Grŵp cymunedol dielw yw Special Movers, a sefydlwyd i gefnogi plant ac oedolion ifanc gydag amrywiaeth o anableddau.

Mae’r grŵp yn cael cymorth gan swyddogion cymorth cymunedol o’r tîm plismona lleol, ac mae’n wych clywed sut mae’r cydberthnasau wedi datblygu rhwng y plant a swyddogion. Yn anffodus, mae rhai o’r plant hyn yn dioddef bwlio’n rheolaidd oherwydd eu hanabledd, ond rwyf yn falch ac yn fwy calonnog bod y cyswllt rheolaidd gyda’r tîm heddlu lleol yn helpu i ddatblygu eu hyder ac yn annog ymddygiad cadarnhaol.

Mae hon yn enghraifft berffaith o’r gwaith pwysig mae swyddogion cymorth cymunedol yn ei wneud yn ein cymunedau a dyma pam rwyf wedi ymroi i gynyddu nifer y swyddogion cymorth cymunedol ledled Gwent i 175 yn ystod y tair blynedd nesaf.