Cynnal parêd ar gyfer swyddogion newydd
19eg Mawrth 2024
Roeddwn yn falch o ymuno â'r Prif Gwnstabl, a theuluoedd a ffrindiau 43 o swyddogion heddlu newydd yr wythnos diwethaf i nodi dechrau eu gyrfaoedd plismona yn ffurfiol.
Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu nifer y swyddogion heddlu yng Ngwent a heddiw rydym mewn sefyllfa llawer gwell na phan gefais fy ethol yn gyntaf yn 2016, gyda mwy na 350 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau.
Mae'r recriwtiaid newydd hyn wedi gweithio’n galed ac wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i gymunedau Gwent ac mae'n rhaid eu canmol. Byddant bellach yn cael eu neilltuo i ardaloedd ledled Gwent, ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.