Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

22ain Mawrth 2024

Bydd etholiadau nesaf y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ddydd Iau 2 Mai 2024.

O ddydd Llun 25 Mawrth tan ddydd Gwener 3 Mai mae'n ofynnol i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent arsylwi cyfnod cyn-etholiadol.

Dyma'r cyfnod cyn etholiad pan fo cyfyngiadau penodol ar weithgareddau cyfathrebu i gyrff cyhoeddus er mwyn osgoi dylanwadu'n annheg ar ganlyniad etholiad.

Ni fydd unrhyw benderfyniadau sylweddol yn cael eu gwneud gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ystod y cyfnod hwn a dim ond dogfennau 'busnes fel arfer', a hysbysiadau yn ymwneud â'r etholiad neu ddiogelwch y cyhoedd fydd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon.



Mwy o wybodaeth am etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu