"Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint enfawr"

19eg Mawrth 2024

Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint enfawr gwasanaethu pobl Gwent fel eu Comisiynydd Heddlu a Throsedd etholedig am yr wyth mlynedd diwethaf. Er y byddaf yn drist i adael y swydd - rwy'n ei mwynhau heddiw gymaint ag yr oeddwn pan gefais fy ethol yn gyntaf yn 2016 - dyma'r amser iawn i drosglwyddo'r rôl i rywun newydd.

Trwy gydol fy nghyfnod fel Comisiynydd, fy nghyfrifoldeb i oedd sicrhau bod gan Gwent wasanaeth plismona effeithlon ac effeithiol, a fy mlaenoriaeth bersonol i oedd sicrhau fy mod yn gadael Gwent yn lle mwy diogel i'n cymunedau. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynghylch fy ymrwymiad a fy nisgwyliad ar hyn drwy gydol y cyfnod hwn ac rwy'n hapus ac yn falch o ddweud bod y ddau amcan hyn wedi'u cyflawni i raddau helaeth.

Nid yw'r wyth mlynedd diwethaf wedi bod heb heriau sylweddol, wrth gwrs. Mae effaith annisgwyl Covid-19, a'r argyfwng costau byw dilynol, ar wasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau wedi bod yn sylweddol. Mae plismona ei hun wedi profi ei gyfres ei hun o heriau yn ystod y cyfnod hwn ac, yn briodol, bu mwy o graffu ar blismona nag erioed o'r blaen. Mae llawer o hyn wedi bod y tu hwnt i’n rheolaeth, ond gwnaethom ein gorau bob amser i gyflawni dros bobl Gwent.

Ac mae llawer y gallwn ni ei ddathlu.

Rwy'n arbennig o falch o'r buddsoddiad rwyf wedi'i wneud mewn 170 o swyddi swyddogion heddlu ychwanegol i helpu Heddlu Gwent i adfer o'r niferoedd isel a achoswyd gan gyni. Ynghyd â swyddogion ychwanegol o Ymgyrch Uplift Llywodraeth y DU, mae 370 yn fwy o swyddogion heddlu bellach yn gwasanaethu pobl Gwent na phan fy etholwyd yn gyntaf.

Mae’r cynllun Heddlu Bach, a gychwynnais yma yng Ngwent, wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn maen nhw mewn mwy na 150 o ysgolion ar draws y rhanbarth. Mae'n chwalu'r rhwystrau ac yn adeiladu pontydd rhwng plant a'r heddlu, yn ogystal â datblygu eu sgiliau rhyngbersonol ac ymarferol, pethau a fydd yn ddefnyddiol am weddill eu hoes. 

Yn ystod fy nghyfnod i, rwyf wedi goruchwylio datblygiad ystad Heddlu Gwent i sicrhau ei bod yn addas at ddibenion plismona cyfloes ac wedi buddsoddi mwy na £2 miliwn mewn gwasanaethau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ychydig o enghreifftiau yn unig yw’r rhain o'r hyn a gyflawnwyd drwy weithio mewn partneriaeth â'r heddlu, partneriaid a chi y cyhoedd.

Wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol, rydym yn gwybod bod llawer mwy o heriau'n aros. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu dyfodol ariannol ansicr ac mae'r pwysau o ran cyllid ar gyfer plismona gan Lywodraeth y DU yn parhau.

Mae'r ddibyniaeth gynyddol ar drethdalwyr cynghorau lleol i sicrhau bod gan Heddlu Gwent lefelau cyllid digonol yn bryder parhaus - yn enwedig gan fod llawer yn parhau i brofi caledi ariannol oherwydd y pandemig a'r argyfwng costau byw.

Ond er gwaethaf yr heriau, rwy'n fodlon bod plismona yng Ngwent wedi parhau i symud i gyfeiriad cadarnhaol drwy gydol fy nghyfnod fel Comisiynydd, ac rwy'n hyderus bod Gwent yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Ac, rwy'n credu'n gryf, gyda'r tîm yr wyf wedi'i ymgynnull yma yn Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, bod sylfeini cadarn y gall fy olynydd adeiladu arnynt.

Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr yn Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, swyddogion a staff Heddlu Gwent, aelodau Panel yr Heddlu a Throseddu, a'n holl bartneriaid am eu gwaith caled a'u cefnogaeth dros yr wyth mlynedd diwethaf. Yn bwysicaf oll, efallai, hoffwn ddiolch hefyd i'r cyhoedd am ymddiried ynof i, i'w gwasanaethu fel eu llais mewn plismona am ddau dymor.